Conwy yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr – 1642 – 1651

Dennis Roberts

canol - Dennis Roberts

Ar 20fed Gorffennaf 2017, arweiniodd Dennis Roberts – yr hanesydd lleol, prifathro wedi ymddeol a Chadeirydd Cymdeithas Hanes Penmaenmawr – 45 o aelodau a chyfeillion y Grŵp Hanes ar daith gerdded ddiddorol iawn o gwmpas tref Conwy. Gan aros mewn mannau oedd o ddiddordeb penodol, fe grëwyd darlun byw ganddo o’r digwyddiadau  a’r cynllwynio a fu yng Nghonwy ym 1646 ar adeg y Rhyfel Cartref.

Dechrau’r hanes oedd genedigaeth John Williams ym 1582 ym Mharlwr Mawr yn y dref ac fe welir olion o’r hyn a fu’n blasty mawr ar Stryd y Capel. Fe’i hadeiladwyd ar yr un adeg a Phlas Coch a Phlas Mawr.

Parlwr_Mawr,_Chapel_Street,_Conwy_2

Parlwr_Mawr,_Chapel_Street,_Conwy_

Roedd tad John Williams yn perthyn i deuluoedd Penrhyn a Cochwillan, a’i fam yn rhan o deulu Wynn o Wydir. Roedd ganddynt ddigon o adnoddau felly i allu anfon eu mab galluog i Ysgol Rhuthun ac yna ymlaen i Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt. Fe’i dyrchafwyd yn gyflym wedi hyn ac ym 1612 roedd yn gaplan i’r Arglwydd Ganghellor. Ym 1620 fe’i penodwyd yn ddeon San Steffan – roedd yn bregethwr ardderchog, gyda llais canu arbennig o dda. Ym 1621, cafodd ei benodi gan y Brenin James I i fod yn Geidwad y Sêl Fawr ac yn Esgob Lincoln. Yn ystod teyrnasiad Brenin Siarl I, gogwyddodd ei ffawd o un ochr i’r llall – ac ym 1625 cafodd ei garcharu yn Nhŵr Llundain am ddeng mlynedd ar gyhuddiad ffug  o fradwriaeth. Yn dilyn ei ryddhad o’r carchar, cafodd ei hun yn uchel ei ffafriaeth ac fe ddaeth yn ymgynghorydd i’r Brenin Siarl ar ei berthynas gyda’r Senedd. Ym 1625 cafodd ei benodi yn Archesgob  Caer Efrog – penodiad sy’n cael ei gofio yn enw’r stryd ger Stryd y Capel: York Place.

Archbishop JohnWilliams

Archesgob JohnWilliams

Yn dilyn cyfnod arall yn y carchar, a gyda’r gwrthdaro rhwng y Brenin Siarl a’r Senedd yn cyrraedd ei anterth, dychwelodd Archesgob Williams i Gonwy a dechreuodd trefnu cefnogaeth o blaid y Brenin. Aeth ati i baratoi at ryfel trwy dalu, allan o’i gyfoeth sylweddol ei hun, am y gwaith o drwsio’r Castell, oedd mewn cyflwr gwael. Pentyrrwyd arfau a chyflenwadau eraill yn y Castell  ac fe anogwyd y boneddigion a’r tirfeddianwyr lleol i ddod ato i’r Castell gyda’u heiddo gwerthfawr i’w cadw’n ddiogel yn y cadarnle a grëwyd ganddo. Gwahoddwyd pobl o uchel-radd, yn cynnwys Esgobion Bangor a Chaer yn ogystal ag Esgob Ossorry o Kilkenny, oedd yn wreiddiol o Fangor, i ddod i’r Castell er mwyn eu diogelwch. Mae’n siŵr bod y trigolion lleol oedd yn byw y tu allan i’r Castell yn byw mewn dychryn wrth weld y darpariaethau hyn yn mynd ymlaen,  ond roedd y rhyfel yn dal i fod ymhell i ffwrdd ag Archesgob Williams yn rheoli ei fro ei hun.

Fodd bynnag, erbyn 1645 roedd y rhyfel wedi cyrraedd Caer a daeth Syr John Owen o Glenennau  i’r amlwg.

Sir John Owen

Syr John Owen

Un gwydn â chreithiau brwydro arno oedd Syr John ac yn un o ffefrynnau’r Tywysog Rupert, arweinydd y marchoglu Brenhinol oedd ganddo enw am fod yn fawreddog a ffôl. Mynnodd Syr John y swydd o lywodraethwr Conwy ac fe gyflwynwyd hwn iddo gan Dywysog Rupert. Cyffrowyd Williams yn arw gan hyn. Gwrthododd gadael y Castell y bu’n gwario ei ffortiwn yn ei baratoi mor ofalus. Y sarhad eithaf oedd i Syr John defnyddio bariau haearn i ymwthio ei hun a’i filwyr, ynghyd a mintai o Iwerddon, i mewn i’r Castell a thaflu ei wrthwynebydd allan. Dyma oedd dechrau’r anghydfod rhwng Williams a’r Brenhinwyr

Yn y flwyddyn  ganlynol, dan arweiniad Cadfridog Mytton, fe orfu’r Seneddwyr a chymerwyd Caer, ac yn fuan wedyn cymerwyd Y Waun, Rhuthun, Caernarfon, Rhuddlan a Dinbych – gan osgoi Conwy. Cawsant eu hymlid gan y fyddin Frenhinol, oedd erbyn hyn yn dorf o ddihirod afreolus, yn dwyn gwartheg ac yn malu’r cnydau – yn cynnwys tiroedd Williams ar Ystad Penrhyn a thiroedd teulu’r Wynn yn nyffryn Conwy. Roedd y ffaith bod y milwyr o’i ochr ef ei hun yn malurio’i dir yn ychwanegu at ei anghydfod gyda’r Brenhinwyr. Oherwydd  pryfocion Syr John a’r difrod a wnaed i’w ystadau, newidiodd yr Archesgob Williams ei deyrngarwch. Cadarnhawyd ei benderfyniad  pan gipiwyd Siarl I gan yr Albanwyr ac yntau yn  argymell ildio. Pan amgylchynwyd Conwy gan  fyddin y Seneddwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, adleisiodd galwad y Brenin i Syr John ildio er mwyn lleihau dioddefaint pobl y dref, ond gwrthododd Syr John i wneud hyn.

Yn Awst 1646, fe osodwyd magnelau ym Modlondeb, ac fe ymosodwyd ar furiau’r dref ar waelod Town Ditch Road, gan roi’r argraff y byddai’r ymosodiad yn dod o’r ochr yma o’r dref. Fodd bynnag, fe ddaeth yr ymosodiad o ochr Porth y Felin dan gyfarwyddyd Archesgob Williams. Ceisiodd yn awr ennill buddugoliaeth gyflym er mwyn dod a’r trais i ben. Y cynllun oedd dringo muriau’r dref gydag ysgolion yn oriau tywyllwch. Yn y diwedd, canfuwyd bod yr ysgolion rhyw tair troedfedd yn rhy fyr, ond fe gwblhawyd yr orchest gyda pheth anhawster a rhai marwolaethau: cipiwyd y dref ar noson a fu’n adeg enbydus i’w thrigolion . Cymerwyd rhai o’r milwyr Gwyddelig yn garcharorion, ac fe’u clymwyd hwy wrth eu traed a’u dwylaw a’u taflu i’r foryd – digwyddiad y dywedir i fod wedi brawychu ‘r Archesgob a Syr John

Fe osodwyd gwarchae ar y Castell ac fe ymosodwyd arno o fis Awst tan Dachwedd, gyda’r gynnau ar y bryniau ar ochr Gyffin yn anelu at furiau’r dref a milwyr byddin y Seneddwyr yn cerdded strydoedd Conwy a’r milwyr Brenhinol yn saethu arnynt o du fewn i’r Castell. Ysgrifennodd yr Archesgob Williams drosodd a throsodd at Syr John i ddweud wrtho fod y Brenin Siarl I wedi ildio ond ofer bu ei ymdrechion. Ni chafwyd cytundeb tan y gaeaf – fe ganiatawyd i’r milwyr Brenhinol, yn ogystal â’r milwyr Gwyddelig,  i orymdeithio allan o’r dref yn ddianaf, gyda’u baneri a’u cleddyfau, ond nid eu mysgedau. Nid oes son yn y cytundeb at y pethau gwerthfawr a storiwyd yn y Castell er diogelwch, ond fe gredir iddynt gael eu casglu’n ddiweddarach gan eu perchnogion.

Felly cymerwyd Castell Conwy gan y Seneddwyr, a dychwelodd Syr John Owen i Glenennau ger Tremadog – a dechreuodd rhyfel arall ger Bangor ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Bu farw Archesgob John Williams yn Gloddaeth ym 1650 ac fe’i claddwyd yn Eglwys Llandegai lle gwelir ei feddrod gwych. Rydym yn dra diolchgar i Dennis am adrodd, mewn dull mor ddiddorol,  hanes bachgen o Gonwy a brofodd gogwyddau anystywallt ffawd, ac a ddylanwadodd ar hanes ar adeg mor derfysglyd.  

Civil War Walk (3a)

 

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

Web Design North Wales by Indever