Hanes Rhyfeddol Gardd Bodnant

Yn ein cyfarfod ar nos Iau 21ain Mawrth cawsom cyflwyniad gan Fiona Braithwaite am Hanes Ryfeddol Gardd Bodnant.

Sefydlwyd Ystâd Bodnod ym 1792 ac yna daeth i feddiant William Hamner ym 1820 yn dilyn ei briodas i deulu Mostyn.

Fiona Braithwaite (Photo by John Lawson-Reay)

Ym 1874, prynwyd Bodnod, neu Bodnant fel y gelwid hefyd, gan Henry Pochin am £62,500. Roedd Henry Pochin yn ddiwydianwr llwyddianus iawn ac yn berchennog ar Gerddi Heulfre. Trwy ei ddiddordeb a phlanhigion a choed, dechreuodd ar y gwaith o greu a dylunio’r ardd. Ei brif gynllunydd oedd Edward Milner, prentis i Joseph Paxton. Trawsblannwyd coed afal o Heulfre i Bodnant ganddo ac ym 1878 fe blannwyd 48 o goed tresi aur Laburnum anagyroides i greu’r ‘Bower Walk’. Heddiw, fodd bynnag, mae pob Laburnum a welir ym Mwa Tresi’r Aur yn dod o wahanol linachau. Adeiladwyd y llwybr gerrig ganddo hefyd. Ym 1883, adeiladwyd y mawsolёwm POEM (Place Of Eternal Memory) ac yma claddwyd aelodau’r teulu.

Redd Laura, merch Henry Pochin, yn arbennigwraig mewn garddio gan ennill y brif wobr ym myd garddwriaeth sef Medal Anrhydedd Victoria ym 1931. Roedd Laura hefyd yn ymgyrchydd ar ran yr Undeb oedd o Blaid Rhyddfreinio Merched. Erbyn marwolaeth ei thad ym 1895, roedd Laura eisoes wedi dylunio nifer o erddi ac ym 1895, fe blannodd nifer o goed coniffer. Ym 1898 fe blannwyd ceirios gwyllt a rhododendronau, ond maent oll wedi diflannu erbyn hyn.

Yn dilyn ei phriodas a Charles McLaren, trosglwyddodd Laura y cyfrifoldeb am yr Ardd i’w mab, Henry McLaren (a ddaeth yn ddiwydiannwr ac yn fargyfieithwr). Rhyngddynt, bu’r ddau yn gyfrifol am adeiladu’r Teras Eidalaidd (1905-06 a 1912-14) gan ddefnyddio gweithwyr lleol. Gan ddefnyddio llyfr poblogaidd Thomas Mawson ‘The Art and Craft of Garden Making’ fe aed ymlaen gyda’r gwaith, yn arbennig y Teras Rhosod Isaf. Cafodd Iarll Crawford o Fife ddylanwad ar Teras Pwll y Lilis.

Adeiladwyd yr Hen Felin oddeutu 1837 i gynhyrchu pŵer i’r ffwrnes haearn i gael mwyn haearn. Yn ddiweddarach, fe ddaeth hwn yn felin blawd ac yna’n felin lifio. Adeiladwyd y ‘Pin Mill’ gwrediddiol ym 1820 yn Swydd Gaerloyw ac fe’i prynwyd ym 1937 am bris na ddatgelwyd. Cafodd ei ddatgymalu a’i ailadeiladu ym Modnant yn 1939.

Roedd Henry yn gyfrifol hefyd am gomisiynu ‘casglwyr planhigion’ sef pobl oedd yn dychwelyd o’r Ail Ryfel Byd efo planhigion o dramor. Bu’n rhaid cael glo ychwanegol i Bodnant er mwyn sicrhau bod rhai planhigion dan do yn goroesi.

Ym 1949, trosglwyddwyd Gardd Bodnant i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (YG) gan Henry McLaren. Bu’n Llywydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (CAB) am 22 mlynedd. Bodnant oedd yr ail ystâd a ddaeth i feddiant yr YG. Yn ddiweddarach, daeth ei fab, Charles McLaren yn Llywydd y CAB ym 1961 wrth barhau i reoli Bodnant

Heddiw mae Bodnant yn parhau i fod yn atyniad poblogaidd iawn i’r YG, er ei bod yn ddioddef o’r “faes parcio gwaethaf gan yr YG” (yn ôl un arbenigwr). Eleni, cafwyd 45,000 o ymwelwyr yn ystod pythefnos Bwa’r Tresi Aur, nifer sy’n parhau i gynyddu pob blwyddyn.

Un pwynt sy’n werth ei gofio yw os oes gan blanhigyn label wyrdd, mae’n hybrid Bodnant.

Mae perchennog presennol Bodnant, Michael McLaren, yn fargyfreithiwr yn Llundain, ac mi fydd yn ymddeol i Bodnant yn y dyfodol agos. Prif Arddwr Bodnant ar hyn o bryd yw John Rippin. Yn 2018 cafodd y ffilm ‘The Secret Garden’ ei ffilmio’n rhannol yng Ngardd Bodnant.

Addasiad o adroddiad Kevin Slattery

Web Design North Wales by Indever