Y Normaniaid yng Ngogledd Cymru

Cyflwyniad gan Morgan Burgess

Morgan Burgess

Athrawes hanes yn Ysgol Rydal Penrhos Bae Colwyn yw Morgan Burgess a chawsom ein diddanu ganddi pan ddaeth atom ar 18fed Ionawr 2018 i roi hanes Cymru yn y canol oesoedd.

Dechreuodd trwy amlinellu’r llinach Normanaidd yn dilyn buddugoliaeth William I dros Loegr ym 1066. Gwlad ranedig oedd Cymru ar y pryd ac roedd llawer o wrthdaro mewnol yn digwydd, yn arbennig rhwng teyrnasoedd Gwynedd, Deheubarth a Phowys. Cyfraith Cymru ar etifeddiad oedd yn rannol gyfrifol am hyn gyda meibion a brodyr yr ymadawedig yn hawlio tiroedd y hytrach na bod y tir yn cael ei drosglwyddo i un etifedd. Arweiniodd y gwrthdaro hyn at chwalfa yn y wlad ac nid oedd Cymru felly yn gallu sefyll yn unedig yn erbyn ymosodiadau o’r tu allan.

Anglo Norman kings

Roedd tirlun Cymru yn gymaint o her i’r Normaniaid fel iddynt ymosod ar gymunedau unigol yn hytrach nag ar yr holl wlad. Cynllun gwreiddiol William I oedd parhau’r traddodiad Seisnig lle’r oedd tywysogion Cymru yn cael cadw eu harglwyddiaeth o’u tiroedd os oeddynt yn parhau i dalu teyrnged i frenin Lloegr. Fodd bynnag, oherwydd y clymbleidiau a ffurfiwyd rhwng y Cymry a’r Saeson oedd yn wrthwynebus i’r Normaniaid, fe grëwyd arglwyddiaethau’r Gororau yn cynnwys Caer, Yr Amwythig a Henffordd. Roedd y tiroedd hanner annibynnol hyn yn creu byffer rhwng Cymru a Lloegr ac fe adeiladwyd nifer o gestyll tomen a beili i fod yn amddiffynfeydd ac yn ganolfannau i gadw nwyddau ar gyfer mwy o ymosodiadau. Dyma’r cestyll cyntaf i gael eu hadeiladu ym Mhrydain: yn wir mae Tapestri Bayeux yn dangos William Goncwerwr yn dod a chastell pecyn fflat gydag ef o Ffrainc!

Wales post-Roman

Nid oedd y Brenin am wastraffu adnoddau i ymosod ar Ogledd Cymru oherwydd prin iawn byddai ei enillion. Fodd bynnag, yn dilyn carchariad Gruffydd ap Cynan, Tywysog Gwynedd, yng Nghaer, doedd neb yn rheoli gyda llwyr awdurdod. Rhoddodd hyn y cyfle i Iarll Caer, Hugh d’Avranches (neu Hugh Lupus neu Hugh Dew), ynghyd a Robert o Ruddlan ei gefnder a’r hwn oedd yn llaw dde iddo, i wneud enillion sylweddol yng Ngogledd Cymru. Adeiladwyd cestyll tomen a beili yn Rhuddlan, Abergwyngregyn, Bangor, Caernarfon ac Aberlleiniog. Robert oedd yn gyfrifol hefyd am y cysylltiad lleol a Ddeganwy trwy adeiladu’r castell ar y Fardre ym 1080. Robert o Ruddlan oedd arweinydd byddin Hugh d’Avranches, ond er bod ganddo’r ddawn i ddatrys problemau lleol, fe’i lladdwyd ar y Gogarth yn ystod brwydr yn erbyn cyd-fyddin y Llychlynwyr a’r Cymry

Yn dilyn marwolaeth William I ym 1087, daeth ei fab William II (William Rufus) i’r orsedd ond mater dibwys oedd Cymru iddo – o leiaf hyd nes i Gruffydd ap Cynan arwain ymosodiad arno ym 1096. Aflwyddiannus bu amryw o ymosodiadau gan y brenin ar Gymru oherwydd dulliau’r Cymry o gudd ymosod. Yn y cyfamser, llwyddodd Hugh d’Avranches ynghyd ac Iarll Amwythig i ymwthio Gruffydd i Ynys Môn ac yna i Iwerddon. Byr iawn oedd goruchafiaeth y Normaniaid oherwydd ychydig yn ddiweddarach cyrhaeddodd Brenin Norwy, Magnus III neu Magnus Droednoeth, gyda’i llynges ac enillodd brwydr ffyrnig yn erbyn Hugh ar y Fenai ger Ynys Seiriol gan ddod ag Ynys Môn o dan awdurdod Norwy. Am gyfnod byr, Ynys Môn oedd ffin ddeheuol Norwy!

Dychwelodd Gruffydd ap Cynan o Iwerddon ac ar ôl iddo gytuno i roi gwrogaeth i Frenin Magnus, cafodd ailfeddianu ei holl diroedd. Yn ddiweddarach bu’n cynnal trafodaethau gyda’r Brenin Henry I oedd wedi esgyn i’r orsedd yn dilyn marwolaeth ei frawd William II ym 1100.

Pan fu farw Henry I heb fab, hawliodd ei ferch Matilda’r orsedd. Fe benderfynwyd fodd bynnag, mai Stephen ei chefnder oedd am etifeddu’r goron. Nid oedd Matilda yn fodlon gyda’r penderfyniad hwn a bu rhyfel cartref yn Lloegr am bron i ugain mlynedd a chafodd Cymru ei hanwybyddu. Manteisiodd mab Gruffydd, Owain Gwynedd ar y sefyllfa ac adenillodd llawer o diroedd ac erbyn yr 1150au roedd llawer o Gymru dan ei reolaeth. Ym 1157 fodd bynnag, ymosododd y brenin newydd, Henry II, ar Ogledd Cymru ac er iddo gael ei drechu yn Ewlo ac i’w lynges cael ei llwyr ddifrodi ar Ynys Mon, llwyddodd y brenin i ymosod ar hyd yr arfordir gan drechu Owain a’i orfodi i ildio’i diroedd i’r dwyrain o Afon Conwy. Caniatawyd iddo gadw ei diroedd yng Ngwynedd a’i deitl os oedd am dalu dirwy enfawr ac ar yr amod ei fod yn parhau i roi gwrogaeth i’r Brenin, Henry II. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ymunodd Owain ag Arweinydd Powys mewn brwydr yn erbyn brenin Lloegr. Anfonwyd byddin enfawr gan Henry II i Groesoswallt – ond bu’n rhaid iddynt encilio oherwydd y tywydd drwg, er mai ym mis Gorffennaf oedd hyn!

Yn dilyn marwolaeth Owain ym 1170, ceisiodd Henry II i gael perthynas heddychlon gyda’r Cymry, efallai er mwyn cael llwybr hwylus i Iwerddon. Bu farw Henry II a daeth ei fab Richard I i’r orsedd ond roedd ganddo fwy o ddiddordeb yn y Croesgadau na Chymru. Yna aeth y goron i’r Brenin John. Erbyn hyn, roedd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) wedi gallu dod a Chymru at ei gilydd. Priodwyd Llywelyn a Siwan, merch Brenin John, ond serch hynny, parhau i reoli eu rhanbarthau eu hunain wnaeth Tywysogion Cymru a pharhaodd hyn hyd nes daeth teyrnasiad Edward I tua diwedd y 13 canrif a dyna pryd y bu trechwyd Cymru.

Felly beth wnaeth y Normaniaid i ni? Yn gyffredinol, yr hyn oeddynt eisiau oedd uwcharglwyddiaeth dros Gymru yn hytrach na llwyr ildiad ac yn ddigon tebyg i’r sefyllfa fel ag y bu cyn y Goncwest Normanaidd tros Loegr. Mae’r hyn a gadawsant yn dal i’w weld yma heddiw, sef y cestyll a adeiladwyd ganddynt – mae gweddillion Castell Aberlleiniog yn werth ei weld, yn ogystal, wrth gwrs, a Chastell trawiadol Deganwy.

Web Design North Wales by Indever