Tameidiau o Hanes – Chwefror 2019

Unwaith eto daeth nifer fawr i’n noson flynyddol o sgyrsiau byr gan unigolion.

Oriel Mostyn, Llandudno

Y cyntaf oedd Jane Matthews o Oriel Mostyn. Cawsom wibdaith gyflym trwy hanes yr adeilad hardd ar Vaughan Street, Llandudno. Sefydlwyd yr Oriel gan y Fonesig Augusta Mostyn ym 1901. Roedd hi yn gefnogol iawn i gelf leol, yn cynnwys Cymdeithas Celf Merched Gwynedd. Bu’r Gymdeithas yn defnyddio’r Pit Ceiliogod yng Nghonwy ac yn chwilio am adeilad newydd. Gan nad oeddynt yn cael defnyddio’r Academi Frenhinol oherwydd eu rhyw, roedd Oriel Mostyn yn ddelfrydol ar gyfer eu harddangosfeydd o 1901-1903.

Jane Matthews, Oriel Mostyn Llandudno

Ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd yr oriel yn ganolfan i “Ddosbarthiadau Celf, Gwyddoniaeth a Thechnoleg”, yn ogystal â chyrsiau mor wahanol â llaw-fer, Ffrangeg, adeiladu a pheirianneg metel. Roedd hyn yn gwireddu dymuniad y Fonesig Augusta i’r gymuned leol fod yn rhan o’r trefniadau oedd am fod er budd trigolion y dref.

Yn ystod y Rhyfel Byd 1af defnyddiwyd prif ystafell yr oriel fel man ymarfer dril ac yn yr 2il Ryfel Byd cafodd ei ddefnyddio gan y Groes Goch Americanaidd fel ‘Donut Dugout’ i’r milwyr o America. Yn dilyn y rhyfel, meddiannwyd yr oriel gan Vincent Wagstaff ac yna gan Rushworth’s yn y 1970au, i arddangos pianos. Ym 1979, ail-agorwyd yr adeilad fel Oriel Mostyn gyda nifer o’r nodweddion gwreiddiol dal yn eu lle.

Mae gwaith ymchwil Jane wedi dadorchuddio nifer o straeon sy’n plethu i’w gilydd, a gyda lwc, daw Jane yn ôl atom i roi fwy o hanes i ni.

 

Bachelors’ Baby

Y siaradwr nesaf oedd Adrian Hughes, hanesydd lleol a pherchennog Amgueddfa’r ‘Home Front’ yn Llandudno, a’i destun oedd ‘Bachelors’ Baby’, hanes awyren fomio ‘Liberator’ Americanaidd a darodd y ddaear uwchben Penmaenmawr ar 7fed Ionawr 1944 munudau ar ôl gadael maes awyr y Fali.

Yn Nhachwedd 1943 meddiannwyd yr awyren gan y Peilot Adrian ‘Ace’ Shultz a’i griw o naw a rhoddwyd yr enw ‘Bachelors’ Baby’s’ i’r awyren oherwydd bod y deg ohonynt yn ddi-briod. Ychydig o ddyddiau cyn gadael, fe fabwysiadwyd ci codi cadno du a gwyn oedd yn chwe wythnos oed ac fe’i galwyd yn Booster. Rhoddodd Adrian manylion bywgraffiadol am yr holl griw.

Ar 15fed Rhagfyr 1943 hedfanodd Bachelors’ Baby o’r maes awyr yn Morrison Field yn Florida. Pen y daith oedd Prydain, i ymuno a’r cannoedd o awyrennau bomio Americanaidd oedd yn rhan o’r rhyfel yn Ewrop. I gyrraedd Ewrop, dewiswyd y Llwybr Deheuol, trwy Puerto Rico, Brasil, croesi’r Iwerydd i Dakar yng Ngorllewin Affrica, ac yna ymlaen i Morocco a chyrraedd Y Fali ar Ynys Môn yn wythnos gyntaf Ionawr 1944

Am 1.45pm ar 7fed Ionawr, gadawodd Bachelors’ Baby Y Fali gan anelu am faes awyr yr Awyrlu yn Watton, Swydd Norfolk. Hedfanodd am ychydig funudau ar draws gwastatir Ynys Môn a’r Fenai ond nid oedd wedi ennill digon o uchder; trawodd to tŷ mawr o’r enw Plas Heulog uwchben Llanfairfechan ond methodd ennill digon o uchder a phlymiodd i’r ddaear ar fynydd o’r enw Moelfre. Roedd yr awyren yn cludo gymaint o gyflenwadau ordnans, ffrwydrodd ar ei union gan greu coelcerth wyllt. Bu farw tri o’r criw ar drawiad gyda’r tir. Cludwyd y rhai a oroesodd o’r mynydd gan chwarelwyr, ffermwyr yr ardal a’r pentrefwyr i’w tai ac yna aethpwyd a hwy i Ysbyty C & A ym Mangor. Bu farw dau arall ychydig yn ddiweddarach.

Memorial to “Bachelors’ Baby”

Ym 1980, codwyd plac i gofio am y pump o’r criw a fu farw, ynghyd a’r masgot, Booster.

 

Eisteddfod Genedlaethol – Sir Conwy 2019

Daeth y noson i ben gyda sgwrs gan Trystan Lewis, am y cysylltiadau lleol gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. Trwy ei wybodaeth helaeth a diddordeb eang ym myd cerddoriaeth, fe’i penodwyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy a gynhelir yn Llanrwst yn Awst eleni. Cyfeiriodd Trystan at ddatblygiad yr Eisteddfod o’r dyddiau cynnar efo Iolo Morgannwg a’i ddychymyg gorfywiog oherwydd ei arferiad efo opiwm hyd at ei ffurf bresennol

Bu llawer o drafodaeth am ddyddiad yr Eisteddfod Genedlaethol cyntaf, ond erbyn iddi gyrraedd Llandudno ym 1864, roedd wedi hen sefydlu ei hun. Dychwelodd i’r dref ym 1896 ac fe godwyd pafiliwn i 18.000 o bobl rhwng Capel Tabernacl a Rhodfa Llewelyn. Y côr-feistr oedd Dr Roland Rogers o Gadeirlan Bangor.

Yn y dyddiau cynnar roedd y beirniadaethau ar y cystadlaethau corawl yn aml yn arwain at gwffio ag ymrafael. Ymwelodd yr Eisteddfod â Bae Colwyn ym 1910, ond erbyn iddi ddychwelyd i Hen Golwyn ym 1941, roedd math arall o gwffio, sef yr 2il Ryfel Byd. Darlledwyd cystadlaethau’r Eisteddfod trwy gyfrwng y radio ac fe gadwyd y lleoliad yn gyfrinachol. Dychwelodd yr Eisteddfod i Fae Colwyn ym 1947 ac yna i Lanrwst ym 1951.

Roedd nifer yn y gynulleidfa yn cofio Eisteddfod Llandudno 1963 gydag ymweliad y Frenhines. Tywyswyd hi i’r maes gan gyn prifathro Ysgol Uwchradd Fodern Mostyn sef Ffowc Williams oedd hefyd yn gôr-feistr ac yn Gadeirydd yr Eisteddfod Genedlaethol fel mae Trystan heddiw. Roedd ei sgiliau tywys ychydig yn anghonfensiynol fodd bynnag – cerddodd ar y carped coch ar Frenhines yn gorfod cydgerdded ag ef – ar y gwair!!

Daeth yr Eisteddfod yn ôl i Lanrwst ym 1989, ac fel eleni, dyn o Ddeganwy oedd Cadeirydd yr Eisteddfod y pryd hynny, sef O.M. Roberts, pennaeth Ysgol Deganwy ac yna Ysgol Maelgwn. Gobeithiwn bydd y tywydd ar gyfer Eisteddfod eleni gystal ag yr oedd pan gafodd ei chynnal yn Abergele ym 1995.

Trystan accepting cheque from HDG

Ar ddiwedd ei sgwrs, cyflwynwyd siec i Trystan, sef cyfraniad y Grŵp Hanes i gronfa’r apêl leol. Ac wrth gwrs, wrth feddwl am yr Eisteddfod gyntaf, mae pawb yn Neganwy yn gwybod iddi gael ei chynnal yn y 6ed ganrif yn Llys Maelgwn Gwynedd ar y Fardre!!

Addasiad o adroddiad Lucinda Smith

Web Design North Wales by Indever