Thomas Telford – Ei Bontydd yng Ngogledd Cymru

Daeth nifer o aelodau ac ymwelwyr i Gapel Peniel ar noson braf o Ebrill i wrando ar gyflwyniad diddorol a chynhwysfawr am bontydd Thomas Telford yng Ngogledd Cymru. Roedd Mr Bob Daimond, ein gŵr gwadd am y noson, yn siarad ar ran Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymuned Porthaethwy. Daeth Mr Diamond I Ogledd Cymru ym 1974 a chafodd yrfa ddisglair fel Peiriannydd Sifil Siartredig.

Bob Daimond

Cawsom wybod am fywyd cynnar Thomas Telford. Fe’I ganwyd ym 1757 i deulu tlawd yn Ardal y Ffin yr Alban, lle cafodd ei fagu. Yn 14 mlwydd oed, daeth yn brentis i saer maen ac yna symudodd o gwmpas y DU yn hogi ei sgiliau ac yn ennill profiad. Tra bu’n byw yn Swydd Amwythig, adeiladodd oddeutu 40 o bontydd a 3 eglwys, yn cynnwys Eglwys St Mihangel yn Madeley, yr eglwys wythonglog cyntaf.

Dechreuodd ei gysylltiad â Gogledd Cymru ym 1793 pan gafodd ei benodi’n Asiant Cyffredinol a Pheiriannydd i adeiladu Camlas Ellesmere, a pharhaodd y cysylltiad yma wrth iddo adeiladu Pontcysyllte, y draphont ddŵr mordwyol hiraf ag uchaf ym Mhrydain ar y pryd.

Telford’s Conwy Bridge

Mae’n debyg bod Thomas Telford yn cael ei gofio yn bennaf yn y rhan yma o Ogledd Cymru am ei waith ar “Ffordd Gaergybi” (rhan o’r briffordd o Lundain i Ddulyn), Pont Grog y Fenai a Phont Grog Conwy. Cynigodd i adeiladu /gwella’r briffordd o’r Amwythig i Gaergybi am £394,000, a chafodd ei ddewis i wneud y gwaith hwn oherwydd ei enw ardderchog ym maes peirianwaith yn yr Alban, yn cynnwys adeiladu 875 milltir o ffyrdd, 1117 o bontydd, dros 40 harbwr, Camlas y Caledonian, 32 o eglwysi, 40 mans a llawer mwy.

Nid adeiladu Ffordd Gaergybi (sef yr A5) oedd unig orchest Thomas Telford, ond fe greodd yr isadeiledd i gyd-fynd a’r ffordd, megis tolldai, tollbyrth a cherrig milltir, llawer ohonynt dal i’w gweld heddiw. Pan yn briodol, defnyddiodd adeiledd oedd eisoes yn bodoli megis y bont 7 bwa yng Nghorwen. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Pont Grog y Fenai ym 1819 ac fe’i hagorwyd ym 1826. Y gost oedd £185,397. Adeiladwyd Pont Grog Conwy rhwng 1822 ac 1826 am gost o £51,000 i gymryd lle’r fferi oedd ar yr un safle.

Bu farw Thomas Telford ym 1834, yn ŵr llawer ei barch gan ei gyfoedion. Datganodd Parnell, trwy ddyfynnu Storch ar bwysigrwydd gwaith peirianwyr “ar ôl diogelu eiddo a phobl, ni all unrhyw lywodraeth rhoi i wlad unrhyw fudd mwy na gwella ei phorthladdoedd, camlesi a ffyrdd”. Disgrifiwyd Thomas Telford gan Robert Southey fel ‘Colossus of Roads”. Beddargraff teilwng efallai i ddyn a wnaeth gymaint i’r rhan yma o Gymru.

Addasiad o adroddiad Diane Williams

Web Design North Wales by Indever