Ymchwilydd Damwain Awyren yr Ail Ryfel Byd, yn cael ei wobrwyo

Gwobrwyo Gwyn

Erthygl gan Eric Smith

 

YMCHWILYDD DAMWAIN AWYREN YN CAEL EI WOBRWYO GAN Y GRŴP HANES

 

Union tri mis ar ol y gwasanaeth a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Saint yng Nghyffordd Llandudno i gofio 70 mlynedd ers damwain yr Avro Anson N5130 ym 1944, cyflwynwyd gwobr arbennig i Gwyn Hughes, y gŵr a fu’n gyfrifol am y gwaith ymchwil i’r digwyddiad erchyll, gan Grŵp Hanes Deganwy yn eu cyfarfod misol ar 15 Mai 2014. 

Dros y ddwy flynedd diwethaf, bu Gwyn, sydd hefyd yn wefeistr y Grŵp, yn  gweithio’n ddygn i ddarganfod yr union fan lle ddaeth yr awyren i lawr, trwy gysylltu â’r Llu Awyr ag apelio am wybodaeth gan y bobl leol. Wedi iddo gael gwybod enwau’r pump ifanc a fu farw yn y ddamwain yng Nghae Erw ger Plasty Bodysgallen  ar 15 Chwefror 1944, aeth Gwyn ati i gysylltu â’r teuluoedd a dechrau ar y gwaith o drefnu’r Gwasanaeth Coffa. Roedd hyn yn cynnwys dadorchuddio plac yn Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Saint, lle’r oedd teuluoedd y rhai a fu farw yn bresennol. Roedd nifer o bobl o fywyd cyhoeddus yr ardal yn bresennol ynghyd ag aelodau’r Grŵp Hanes. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd am y digwyddiad yn lleol, yn genedlaethol a hyd yn oed yn rhyngwladol..

 

Y Gwobrwyo

Award

 

Gwobrwyo Gwyn

Mae Gwyn wedi rhoi darlithoedd am ddamwain yr awyren ac fe welir yr holl fanylion am y digwyddiad ar y wefan hon.

Trwy frwdfrydedd Gwyn at y gwaith ymchwil i’r  prosiect, fe ysgogwyd y Cynghorydd Mike Priestley a Mrs Mel Lewis o Glwb Cymunedol Cyffordd Llandudno ag eraill, i godi arian tuag at Ardd Coffa ac ail blac i’w osod ar Faes Chwarae’r Clwb .

Mewn ymateb am y wobr o Wydr Crisial Brenhinol Cymreig a gyflwynwyd iddo gan Gadeirydd y Grŵp Hanes, Eric Smith, dywedodd Gwyn: Roedd y diwrnod y cofio hwnnw yn Chwefror yn un o’r dyddiau mwyaf o falchder yn fy mywyd ac rwy’n cysegru’r wobr hwn i’r pum gŵr ifanc o’r Llu Awyr a fu farw”.

Award for Gwyn

Award for Gwyn

                                                          

Adroddiad gan Eric Smith                                                                      

Web Design North Wales by Indever