Deganwy yng nghyfnod y Frenhines Victoria a Brenin Edward VII
Gwaith Ymchwil gan Fiona Richards 2011
O edrych ar Fap y Degwm 1846 a chyfrifiadau 1841, 1851 ag 1861 mae’n taro rhywun bod y mwyafrif o’r boblogaeth yn byw yn ardal Tywyn, lle’r oedd y ffordd blwyf o Gonwy yn troi i fynnu’r allt tuag at Landudno (Allt Pentywyn). Nid oedd Deganwy ei hun wedi datblygu, hyd yn hyn, i fod yr ardal rydym yn ei adnabod heddiw. Roedd yr arfordir tywodlyd, gyda thwyni tywod, yn arwain tuag at Ben Morfa. Nid oedd unrhyw ffyrdd yma ar yr adeg ac roedd y llwybr yn arwain tuag Tyddyn Dyganwy (a elwir weithiau yn Treganwy neu Diganway, yn ddiweddarach yn rhan o Westy Castell Deganwy). Y llyfr post cyntaf i gyfeirio at Ddeganwy fel pentref oedd ym 1880 a’r cyntaf i restru’r trigolion oedd ym 1886.
Datblygiad pwysig yn ardal Tywyn / Deganwy ar y pryd, oedd sefydlu’r rheilffordd leol o Gyffordd Llandudno i Landudno a agorwyd fel lein sengl ar 1af Hydref 1858. Ymddangosodd cyfeiriad cyntaf at Orsaf Ddeganwy yn Bradshaw ym Mai 1866. Ehangwyd y lein sengl i fod yn lein ddwbl ac fe ailadeiladwyd Gorsaf Deganwy c.1876. Fe adeiladwyd cei hefyd ar gyfer y fasnach llechi.
Mae’n ddiddorol nodi bod mwy o bobl yn byw ym mhentrefan Tywyn nag oedd yn Neganwy pan adeiladwyd yr Orsaf. Efallai mai un rheswm i’r Orsaf cael ei adeiladu yn Neganwy yn hytrach nag yn Nhywyn oedd dylanwad perchennog ‘Deganwy House’ sef John Lloyd Jones Ysw., perchennog tiroedd, Ynad a Dirprwy Arglwydd Raglaw. Mae’n ymddangos iddo mynnu bod y rheilffordd i groesi ei dir a bod Gorsaf y Rheilffordd i gael ei adeiladu y tu allan i’w ddrws ffrynt. Cytunodd y cwmni rheilffordd i wneud hyn ac felly, trwy leoliad Orsaf y Rheilffordd, datblygodd Deganwy. Efallai bod gan John Lloyd Jones lygad at y dyfodol oherwydd erbyn hyn roedd Llandudno yn datblygu i fod yn dref lan y môr ffasiynol iawn ac efallai gallai Deganwy fod yr un peth.
Gwerthwyd ‘Deganwy House’ mewn ocsiwn ar 25ain Medi 1871 oherwydd roedd y Lloyd Joneses wedi symud i fyw i Ddyfnaint at deulu. Mae’r catalog yn disgrifio’r tŷ fel …. ….
‘The extremely desirable and very commodious Family House or Mansion House called Deganwy…charmingly situated on the banks of the river Conway, commanding delightful views of the Vale of Conway, Conway Castle & Bridges, Penmaen Maer , the Great & Little Ormeheads, the Irish Sea, Puffin Island, the Islands of Anglesey & etc. The House is in the best state of repair and contains numerous large and small Sitting, Reading and Entertaining rooms, Housekeeper’s room, Butler, Pantry, Smoke Room, Coat and Knife rooms, Kitchens, Pantry, three Water Closets, Lavatory & etc on the ground floor with excellent Wine & Ale Cellars in the basement; sixteen excellent Bed and Dressing rooms, sitting room, Bathroom and two water closets on the first floor; and in the Tower (from which most extensive land & sea views are obtained) there is a small Bedroom and Observatory. The Out offices six stalled Stable and Harness room with Billiard room over, large Coach house, Wash house, Laundry, well ventilated Larder & etc. The House is approached by a carriage drive through tastefully laid out Pleasure grounds; there is a Croquet Lawn and two large productive Kitchen Gardens, one of which is walled and contains many valuable full bearing fruit trees.’
Erbyn cyfrifiad 1881 roedd Gwesty Castell Deganwy yn cael ei redeg gan John Robert Barber o Swydd Suffolk, fel y Gwesteiwr gyda’i wraig a’i deulu yn byw yna. Fodd bynnag, mae’n ymddangos i gyfnod John fel Gwesteiwr fod yn egwyl fer o’i fywyd ym myd addysg. Mae Cyfeirlyfr Slater 1880 yn dangos ei fod yn Bennaeth ar Goleg Deganwy. Mae’n bosibl mai yng Ngwesty Castell Deganwy y bu Coleg Deganwy ac yn cael ei redeg gan John Robert Barber cyn iddo ddychwelyd i fod yn westy.
Mae’n debyg mai tua 1886 daeth Henry Stewart Tritton, o Swydd Lincoln ac yn cyn bancwr, yn berchennog Gwesty Castell Deganwy. Yn sicr, rhoddwyd Deganwy ar y map gan y Trittons, gyda’r gwelliannau a wnaed ganddynt i’r gwesty ac fe ddaeth y gwesty i fod yn ‘enwog’. Bu farw Henry Stewart Tritton ym 1892 a’i wraig Helen Marie oedd yn gyfrifol am redeg y gwesty.
Erbyn yr 1880’au roedd ychydig o filas ar Ffordd yr Orsaf o’i gyffordd a Ffordd Tŷ Mawr tuag at Westy Castell Deganwy, gyda rhes o dai teras (Teras Deganwy). Roedd ychydig o filas megis ‘Platt House’ i’w gweld ar ochr arall y gwesty ar Ffordd Deganwy. Roedd nifer o’r preswylwyr wedi ymddeol neu yn byw ar eu hincwm eu hunain.
Erbyn cyfrifiad 1891, roedd Deganwy wedi tyfu ac fe adeiladwyd Eglwys St James. Erbyn 1899, fe adeiladwyd Eglwys yr Holl Saint, yn bennaf trwy ymroddiad y Fonesig Augusta Mostyn, i fod yn eglwys fwy. Yna defnyddiwyd Eglwys St James fel ysgol, yn bennaf i gymryd lle Ysgol Llanrhos oedd peth pellter i ffwrdd o lawer o boblogaeth Deganwy a Thywyn gerllaw.
Yn ystod yr 1890’au, gyda gwerthiant Ystad Deganwy (a fu ym mherchnogaeth Josiah Evans o Haydock) roedd tir adeiladu yn dod ar gael, y rhan fwyaf ohono ar y ddwy ochr o Ffordd Glan y Môr ac i fynu’r allt ar hyd Ffordd Bryn Lupus gyda mwy o dir ar hyd yr arfordir tuag at Ben Morfa. Ar yr adeg hynny roedd y briffordd yn mynd i fynu’r allt tuag at Lanrhos ac nid yn ei flaen i Ben Morfa. Bu arwerthiant arall ym 1903.
Mae Cyfeirlyfr Slater am 1895 yn datgan: ‘Deganwy as a small village and railway station in the parish of Eglwys-rhos, about 2 miles south of Llandudno, is pleasantly situated at the mouth of the Conway river and commands a fine view of the castle and town of Conway with Beaumaris Bay in front and the mountains behind; it is principally composed of villa residences, there are some lodging houses and a good hotel. In the near vicinity are the ruins of an old castle said to have been built at the end of the 11th century…..There is a first class hotel called the Deganwy Castle.’
Erbyn dechrau’r ganrif, roedd Deganwy yn dod yn lle lan y môr adnabyddus. Un o’r atyniadau i ddenu ymwelwyr i Ddeganwy oedd y stemars olwyn oedd yn cludo teithwyr o Gonwy a Deganwy i Drefriw. Roedd y teithwyr yn hwylio o’r lanfa fechan ar Marine Crescent ar ochr arall y rheilffordd.
Mae map Ordnans 1900 yn dangos gwahaniaeth mawr o’r map Ordnans blaenorol 1889/90. Adeiladwy mwy o filas, yn bennaf rhwng y filas oedd yn bodoli’n barod ar Ffordd yr Orsaf a Ffordd Deganwy. Ychwanegwyd teras arall o dai / siopau ar Ffordd yr Orsaf, (nifer ohonynt efo mynediad siop ar y ffrynt gyda mynediad ychwanegol yn arwain at y lle byw uwchben). Adeiladwyd yr anheddau ar Marine Crescent a Teras Sefton ac fe baratowyd cynlluniau ar gyfer York Road a Ffordd Gannoc i ychwanegu at yr ychydig o dai a adeiladwyd eisoes lle’r oedd y strydoedd hyn yn dechrau. Disgrifiwyd llawer o berchnogion y filas hyn i fod ‘yn byw ar incwm preifat’ neu mewn proffesiwn megis bargyfreithiwr neu yn gurad. Eto roedd llawer o’r bobl hyn yn hanu o leoedd yn Lloegr megis Manceinion, Lerpwl neu Birmingham. Er i rai o’r staff cael eu geni’n lleol, roedd llawer ohonynt wedi symud i Ddeganwy gyda’r teulu yr oeddynt yn gweini trostynt.
Mae lluniau cardiau post yn dangos tai ym Marine Crescent ond heb ffordd a heb wal i’r promenâd; mewn lluniau diweddarach fe welir bod y ffordd yn ei le gyda’r promenâd, a hwnnw’n mynd ymlaen ar ochr y traeth. Adeiladwyd y promenâd ym 1901.
Datblygodd Deganwy o fod yn fan braidd yn ynysig ar hyd arfordir tywodlyd, gyda ‘Deganwy House’ ag ychydig o ffermydd a thyddynnod i’r pentref y gwelwn heddiw. Un o’r prif ffactorau yn ei ddatblygiad oedd y rheilffordd a lleoliad Gorsaf Deganwy. Agorodd y rheilffordd yr ardal i bobl o’r tu allan, y rhai oedd yn chwilio am rywle i fyw oedd o fewn cyrraedd i Lerpwl a Manceinion ag i’r rhai oedd eisiau ymweld ar eu gwyliau wrth ymyl tref lan y môr Llandudno.
Ffactor arall yn natblygiad Deganwy oedd gwerthiant y tiroedd, yn arbennig Ystad Deganwy, a agorodd yr ardal i ddatblygiad pellach. Bu’r datblygiad o ‘Deganwy House, yn arbennig gan y Trittons, i fod yn Westy Castell Deganwy yn rhan bwysig o ddatblygiad Deganwy i fod yn fan lan y môr adnabyddus. Denodd Stemars Olwyn Trefriw llawer o ymwelwyr i Ddeganwy.
Efallai bod dyddiau bri Deganwy fel man gwyliau drosodd ond mae’r ardal yn parhau i fod yn boblogaidd gydag ymwelwyr a’r trigolion.
Latest Research
Web Design North Wales by Indever