Ymweliad ag Archif Conwy

Ar 16eg Mehefin daeth 30 aelod o Grŵp Hanes Deganwy i ymweld ag Archifau Conwy, sydd bellach wedi’u lleoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ynghyd â Llyfrgell Conwy.

Tra yno, cawsant gyfle i weld dogfennau a ffotograffau gwreiddiol yn yr ystafell chwilio gyhoeddus, gweld lle mae’r cofnodion yn cael eu cadw yn yr ystafell ddiogel, a chael awgrymiadau ar wneud eu hymchwil eu hunain.

Mae Archifau Conwy yn casglu ac yn gofalu am gofnodion pwysig yn ymwneud â Sir Conwy gyfan. Maent yn dod o lefydd fel llywodraeth leol, busnesau, eglwysi a chapeli, ysgolion ac unigolion. Yn yr Archifau mae dros 75,000 o ddogfennau, gan gynnwys 15,000 o fapiau a chynlluniau, a thua 50,000 o ddelweddau. O’r rhain, mae o leiaf 3,000 o eitemau yn cynnwys ‘Deganwy’ yn eu disgrifiad, ac roedd tua 40 ohonynt yn cael eu harddangos yn yr ystafell chwilio.

Cafodd y Grŵp cyfle i weld cofnodion plwyf a chofnodion ysgol, cynlluniau, catalogau gwerthiant, ffotograffau a dogfennau gan gynnwys cofnodion llys, morgeisi ac ewyllysiau. Ymhlith y rhain roedd sôn am ladron wisgi, tacsidermydd, grinder organau a’i barot, a busnesau ddoe a heddiw fel yr Hygienic Bakery, cigyddion Kim Forbes, Deva Kitchens a Maggie Murphy’s.

Arweiniwyd y daith i’r ystafell ddiogel gan Kate Hallett, y prif archifydd, a roddodd gipolwg ar ofod storio tanddaearol arbenigol yr Archifau. Gwelwyd y cynlluniau ar gyfer estyniad i westy ym Mhwll Pen Morfa na ddaeth byth i ddwyn ffrwyth. Roedd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys gwesty 8 llawr, bloc o fflatiau, lloches cyrch awyr, garej, ystafelloedd te, clwb cychod hwylio a chyrtiau tennis.

Synnwyd sawl aelod o weld dau beiriant golchi Hotpoint, o’r 1920au a’r 1960au a gynhyrchwyd yn lleol.

Rhoddodd Gary Jones, arbenigwr hanes teulu, gyflwyniad i adnoddau ar-lein gan gynnwys rhai y gellir eu defnyddio am ddim ar y safle – Findmypast, Ancestry a British Newspapers Online, y mae’r Archifau yn tanysgrifio iddynt. Bu hefyd yn arddangos adnoddau y gallwch eu defnyddio am ddim gartref gan gynnwys Mapiau Degwm Cymru (www.places.library.wales), yr Archives Hub (ArchivesHub.jisc.ac.uk) a mapiau OS Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (www.nls.uk )

Mae Archifau Conwy ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 9.30-12.30; 13.30-16.30 ac ar agor gyda’r nos tan 18.45 ar ddydd Mawrth. Mae’r staff bob amser yn hapus i’ch helpu gyda’ch ymchwil, ac efallai y bydd gennych ddigon o ddeunydd ar gyfer un o gyfarfodydd Pigion Hanes mis Chwefror Grŵp Hanes Deganwy!


Diolch yn fawr i holl staff yr Archifau am wneud yr ymweliad yn gymaint o lwyddiant ac yn benodol i Lucinda am wneud y trefniadau ar ein cyfer.

 

 

 

Web Design North Wales by Indever