Cadeirydd Eric Smith
Gwanwyn 2016
Taflen Newyddion Rhif 20
Er mai rhifyn y Gwanwyn o’n Taflen Newyddion yw hwn, mae’n bell o fod yn dywydd Gwanwynol. Wrth edrych trwy’r ffenestr nawr, ar ddiwedd Ebrill, mae’r stryd tu allan yn wyn gyda chenllysg. Fodd bynnag, gadewch i ni feddwl am yr haf sydd o’n Blaenau!
Fel y gwyddoch, mae’r Grŵp Hanes yn parhau i fod yn brysur iawn. Daeth 2015 i ben gyda’n Diwrnod Agored Blynyddol, ac er bod yr arddangosfa i’r safon uchel arferol, isel iawn oedd y nifer a fynychodd yr arddangosfa., efallai oherwydd y tywydd a hefyd efallai oherwydd yr adeg o’r flwyddyn. Felly rydym wedi dod a dyddiad Diwrnod Agored 2016 ymlaen i 3ydd Rhagfyr, felly dylai’r rhai ohonoch sy’n aelodau newid eich cerdyn aelodaeth yn unol â hyn.
Mae’r arddangosfa yn parhau i fod ar gael i’w weld yn Y Bont, Adeilad Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno – mynediad am ddim.
Cafwyd cychwyn da i’n cyfres o gyfarfodydd misol gydag Eric, ein Cadeirydd yn cyflwyno Pigion Hanes. Noson anffurfiol oedd hon gydag aelodau unigol yn siarad am agweddau hanesyddol oedd o ddiddordeb iddynt hwy.Yn gyntaf cawsom yr hanes trist gan Elan Rivers am y morfilod a olchwyd i’r lan ar y traeth yn Neganwy ym 1944.
Yna rhoddodd Gwyn Hughes hanes yr arlunydd tirlun nodedig Joshua Anderson Hague (1850-1916) a ddaeth i fyw i Ddeganwy ym 1877. Roedd yn un o sylfaenwyr yr Academi Frenhinol Gymreig.
Yna cafwyd yr hanes gan Kevin Slattery am y gwaith a wneir gan aelodau’r Grŵp Hanes yn Ffynnon Santes Fair, Llanrhos.
Daeth Vic Edwards ymlaen i son am brosiect Clwb Hwylio Conwy, a ddechreuwyd yn 2011, i gael yr 16 badau ‘Conway One’ ar y dŵr unwaith eto.
Y siaradwr olaf oedd Adrian Hughes a’i destun oedd ‘Un Lemon am 6 Gini’. Hanes oedd hwn am ŵr lleol yn yr 2il Ryfel Byd. Tra ar ddyletswydd yn Affrica, ac oherwydd y dogni yn y wlad yma ar y pryd, anfonodd lemon adref at ei fam. Aeth hi ymlaen i godi 6 gini amdano mewn ocsiwn yn y pentref i godi arian tuag at ymgyrch ‘Dig for Victory’.
Yn Chwefror, daeth Meic Williams yr holl ffordd o Swydd Dorset atom i Mae Meic yn gyn Trysorydd Cenedlaethol Cymdeithas Owain Glyndŵr ac roedd yn hynod o falch o weld Ysgrifennydd Cenedlaethol y mudiad hwnnw, Gareth Jones wedi dod yr holl ffordd o Ben-y-bont ar Ogwr i wrando arno.
Ym Mawrth cawsom ein diddanu gan Vicky Macdonald wrth iddi wahodd y gynulleidfa – 85 yn bresennol – i ymuno a hi a hel atgofion am Lido Deganwy, yr hen bwll nofio awyr agored oedd yn gymaint o atyniad yn y pentref yn y 1940’au a’r 50au. Galwyd i gof llawer o ddigwyddiadau doniol er difyrrwch enfawr i’r gynulleidfa.
Yn Ebrill cawsom gyfarfod anffurfiol arall dan arweiniad John Davies gyda chymorth gan Elan Rivers ag Adrian Hughes. Roedd y triawd o aelodau’r Pwyllgor wedi paratoi cyfle i’r gynulleidfa dynodi rhai o fannau hanesyddol y pentref trwy ddefnyddio pwyntiau Ymateb Cyflym (QR). Nodwr yw hwn sy’n cynnwys cod bar arbennig gyda gwybodaeth am y safle y gellir ei ddarllen gan ffonau symudol. Fe osodir y rhain mewn mannau anamlwg ar adeiladau sydd â stori i ddweud.
Mae gennym raglen lawn ag amrywiol am weddill y flwyddyn gan ddechrau ym Mai gyda Debbie Wareham o Ships’ Timbers yn dychwelyd i son am ein badau achub lleol ers 1861. Efallai y cofiwch i Debbie ein harwain ar daith llynedd i weld sgerbwd y “Flying Foam” ar y traeth ym Mhen Morfa.
Yn ystod yr haf byddwn yn mentro allan o Gapel Peniel fel a ganlyn:
Digwyddiadau eraill sydd i ddod yw
Mehefin 11eg – Diwrnod y Prom – Angen gwirfoddolwyr os gwelwch yn dda ar gyfer ein stondin
Gorffennaf 7fed – taith o amgylch Ynys Môn ar y stemar ‘Balmoral’.
Mae mwy o fanylion ar gael am yr holl ddigwyddiadau hyn ar ein gwefan www.deganwyhistory.co.uk Cawsom ychydig o broblemau efo’r gwefan yn ddiweddar ond cawsant eu datrys erbyn hyn. Os bydd y problemau yn parhau, cysylltwch â’r Ysgrifennydd ar ei gyfeiriad e-bost newydd ifor42@gmail.com. am fwy o wybodaeth.
’Does posib fydd y tywydd garw yma’n parhau, felly dymuniadau gorau i bawb am haf cynnes a heulog
Ebrill 2016
Chairman Eric Smith
Spring 2016
Newsletter No. 20
Although this is the Spring edition of our Newsletter, it is far from being Spring like weather. As I look through my window now, at the end of April, the street outside is white with hailstones. However, let’s look on the bright side and think of the summer which lies ahead!
As you will be aware, the History Group continues to be extremely busy. We ended 2015 with our Annual Open Day, and although the exhibits were up to the usual high standard, the attendance was poor, possibly due to the bad weather and maybe the time of year. In view of this, we have brought forward our 2016 Open Day to 3rd December, so those of you who are Members should make the necessary amendment to your membership card.
The exhibition can still be viewed at Y Bont, Welsh Government Building in Llandudno Junction – free admission.
Our monthly meetings got off to a flying start with Eric, our Chairman, introducing Snippets of History. This was an informal evening when individual members gave presentations on matters which were of historic interest to them.
Firstly we had the sad story from Elan Rivers about the whales that were washed ashore on Deganwy beach in 1944.
Then Gwyn Hughes gave us a talk about the notable landscape painter Joshua Anderson Hague (1850-1916) who came to live in Deganwy in 1877. He was one of the founder members of the Royal Cambrian Academy
Kevin Slattery then talked about the work being undertaken by members of the History Group at St Mary’s Well in Llanrhos.
Vic Edwards of Conwy Yacht Club talked about the Club’s project, started in 2011
to get the 16 Conway One boats on the water once again.
The final presentation by Adrian Hughes had the intriguing title ‘6 Guineas for a Lemon’. This was the story of a local man in the 2nd World War who, whilst serving in Africa, sent a lemon home to his mother. She in turn auctioned the lemon at a concert in the village and raised 6 guineas for the ‘Dig for Victory’ campaign.
In February, Meic Williams came all the way from Dorset to tell us about the life and times of Owain Glyndŵr. Meic is a past National Treasurer of the Owain Glyndŵr Society and he was pleased to see the National Secretary of that organisation, Gareth Jones, present at the meeting. Gareth himself had travelled up from Bridgend.
In March we were enormously entertained by Vicky Macdonald who invited those present – 85 in number – to join with her in reminiscing about the Deganwy Lido, the old open air swimming pool that was such an attraction in the village in the 1940’s and 50’s. Many hilarious occurrences were recalled, much to the enjoyment of the audience.
In April we held another informal meeting led by John Davies and ably assisted by Elan Rivers and Adrian Hughes. The trio of Committee members had prepared an intriguing opportunity for the audience to identify places of historic interest in the village by the use of Quick Response (QR) points. These are markers bearing a special type of bar code bearing information about the location that can be read by a mobile phone. These are discreetly located on buildings or locations that have a tale to tell.
We have a full and varied programme arranged for the rest of the year beginning in May with Debbie Wareham of Ships’ Timbers returning to tell us about our local lifeboats since 1861. You may recall that Debbie took us on a trip last year to view the skeleton of the “Flying Foam” at West Shore.
In June and July we will be venturing out of Peniel Chapel as follows:
Other forthcoming events are
June 11th – Prom Day – Volunteers required please for our stand; and
July 7th an all-round Anglesey trip on ‘Balmoral’ steamer.
Further details of all these events can be found on our website www.deganwyhistory.co.uk
We have had a few problems with the website in recent weeks but these appear to have been resolved. If these problems do recur, please contact the Secretary at his new e-mail address ifor42@gmail.com for any further information.
We know this bad weather cannot possibly continue, so here’s wishing us all a warm and sunny summer.
April 2016
Grwp Hanes Deganwy History Group
Quick Navigation
Latest Research Articles
Contact Us
Secretary
Vicky Macdonald
Tel: 01492 583379
VickyMacdonald@aol.com
Web Master
Trefor Price
Mobile : 07711588714
trefor.price@btopenworld.com
Connect With Us
© Deganwy History Group 2022 | stablepoint
Web Design North Wales by Indever