Er ymyrraeth corwynt Doris yn ystod y mis, daeth mis Mawrth i mewn fel oen ac aeth allan fel oen hefyd.
Croeso cynnes i Daflen Newyddion Gwanwyn y Grŵp Hanes a gobeithio y cewch rywbeth ynddo a fydd o ddiddordeb i chi.Cynhaliwyd y Diwrnod Agored Blynyddol cyn y Nadolig, sydd bell yn ôl erbyn hyn. Bu’n ddiwrnod llwyddiannus dros ben, a nifer o’r rhai oedd yn bresennol yn dangos cryn ddiddordeb yn yr hyn oedd i’w gweld. Rhaid diolch i Adrian a’i dîm am baratoi arddangosfa mor wych.
Cafwyd dechrau da i’n rhaglen 2017 yn Ionawr, pan ddaeth dros 80 i gyfarfod cyntaf y flwyddyn. Oherwydd y nifer fawr oedd yn bresennol, bu’n rhaid ad-drefnu ar frys a symud i’r Capel ei hun.
Prif atyniad y noson oedd Erin Lloyd Jones a thestun ei sgwrs oedd Bryngaerau Cynhanes Gogledd Cymru a’r Gororau. Yn ystod ei sgwrs, oedd yn llawn asbri, gosododd nifer o gwestiynau yn ymwneud â’r dewisiadau a wnaed i leoli’r bryngaerau a beth oedd eu pwrpas. Gobeithio daw Erin yn ôl rhyw ddiwrnod gyda rhai o’i hatebion i’r cwestiynau hyn.
Yn Chwefror, daeth Matt Osmont o gwmni Donald Insall Associates atom ar fyr rybudd i son am ‘Gwarchod Adeiladau Hanesyddol’.
Mae Matt yn bensaer cadwraeth gyda’r cwmni sy’n arbenigo ym mhensaernïaeth adeiladau hanesyddol. Cafwyd trafodaeth fywiog yn ystod ei gyflwyniad am nifer o faterion, yn cynnwys yr effeithiau gall y budd masnachol o ddatblygiadau newydd gael ar ardaloedd hanesyddol a’r angen am gytbwysedd rhwng yr elfennau hyn.
Cynhaliwyd ein ‘Pigion Hanes blynyddol ym mis Mawrth, lle daw aelodau unigol o’r Grŵp ymlaen i roi sgwrs ar fater sydd o ddiddordeb arbennig iddynt hwy.
Bu hwn yn boblogaidd iawn ers iddo ymddangos gyntaf rai blynyddoedd yn ôl, ac nid oedd eleni’n wahanol. Y gyntaf i ddod ymlaen oedd Lucinda, aelod mwyaf newydd o’r Pwyllgor ac un sy’n gweithio mor galed dros y Grŵp.
Roedd ei sgwrs yn seiliedig ar ddogfennau o’r archif yn disgrifio scandal yng Nghonwy yn yr 16eg ganrif yn ymwneud a chyhuddiadau o drais, carcharu ar gam, lladrata, cribddeiliaeth a llusgo rhywun gerfydd ei wallt allan o’r Eglwys!
Rhaid ymweld â’n gwefan i weld beth oedd canlyniad yr achos yn Siambr y Seren ym Mhalas San Steffan, Llundain dan lywyddiaeth Cardinal Thomas Wolsey.
Y nesaf oedd Elan, a chafwyd hanes ganddi am Morris Wartski, y gemydd o Landudno. Daeth i Ogledd Cymru o’r ardal sydd ar y ffin rhwng Rwsia a Gwlad Pwyl ac agorodd siop ym Mangor ym 1865. Agorodd siopau yn ddiweddarach yn Llundain ac ymysg ei gwsmeriaid oedd Bing Crosby a Jackie Kennedy. Bu Wartski yn ymwneud hefyd a gwerthiant wyau enwog Faberge Gem o sgwrs!
Yna daeth Gwyn ymlaen i fynd a ni am dro ar hyd llwybr atgofion gan ddangos i ni luniau o Ddeganwy o’r awyr, fel ag y bu ac fel y mae heddiw. Ymunodd y gynulleidfa yn y sgwrs a llawer ohonynt yn rhannu eu hatgofion a’u gwybodaeth hwy am yr ardal. Gymaint o newidiadau mewn ychydig dros 50 mlynedd.
Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn at gyfarfodydd Ebrill a Mai, y ddau ohonynt yn ymwneud â Chastell Gwrych yn Abergele. Ar 20fed Ebrill, bydd Dr Mark Baker, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych ac sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar y pwnc, yn dod atom i roi ychydig o hanes y Castell ac ar 18fed Mai fe gynhelir cyfarfod dilynol ar yr un testun pan fydd Mark yn ein tywys o amgylch y Castell.
Ar 15fed Mehefin bydd Elan yn ein tywys o amgylch Bodafon i weld yr Ysgol, y Fferm a’r Ogofau ac i glywed hanesion am Frwydrau Rhufeinig ac ar 20fed Gorffennaf cawn ein tywys ar daith arall – Conwy y tro hwn – i glywed gan Dennis Roberts am y dref ar adeg y Rhyfel Cartref .
Gobeithio bod y fwydlen uchod yn ddigon blasus i’ch denu i barhau i gefnogi’r Grŵp a’i weithgareddau. Dowch a ffrind.
BARGEN! Ar hyn o bryd mae llyfr Betty Mills ‘Flowers on a Path’ ar werth hyd at ddiwedd mis Mai yn unig am bris gostyngedig o £2.50 am un copi £3.50 am 2 gopi neu £5 am 3 copi, felly manteisiwch ar y fargen yma, anrheg wych i’ch cyfeillion a’ch teulu gyda gwanwyn ar y trothwy. Bydd yr holl incwm yn mynd i goffrau’r Grŵp Hanes.
Wrth derfynu, anfonwn ein dymuniadau gorau atoch am haf bendigedig.
Gwanwyn 2017
Well despite the intervention of hurricane Doris, March came in like a lamb and went out like a lamb as well.
A warm welcome to the History Group’s Spring Newsletter from which you will find, hopefully something that will be of interest. Our Annual Open Day held before Christmas and which is now a distant memory, was hugely successful and many people attended and a great deal of interest was shown in what was on offer. Our thanks are to Adrian and his team for putting on such a fine display.
Our 2017 programme of talks got off to a good start in January when over 80 people attended. Due to the vast numbers present, hurried arrangements were made to use the Chapel itself. The main attraction of the evening was Erin Lloyd Jones who gave a spirited talk on the subject of Prehistoric Hill Forts of North Wales and the Borders. During her talk, she posed many questions as to why the locations of the hill forts were chosen and what was their purpose. Hopefully Erin will return to give us the answers to some of the questions at a future meeting,
In February, Matt Osmont of Donald Insall Associates stepped in at short notice to talk about ‘The Conservation of Historic Buildings’. Matt is a conservation architect with the company which specialises in the architecture of historic buildings.
A lively discussion took place during his presentation about a number of matters including the effect of commercial interests of new developments in areas of historic interest and the need for a balance between the two.
Our March meeting was the annual ‘Snippets of History’ where individual Group members give a presentation on a subject in which they are particularly interested. This has been very popular since it was introduced a couple of years ago and this year was no different.
First up was Lucinda, our newest Committee member, and one who works so hard on behalf of the Group. Her talk was based on archival documents describing a 16th century scandal in Conwy, involving allegations of violence, false imprisonment, theft, extortion, and dragging someone out of St Mary’s Church by their hair!
You’ll have to check our website to discover the outcome of the hearing held in the Star Chamber, Westminster, London under Cardinal Thomas Wolsey.
Elan was next up and she gave us the history of Morris Wartski the jewellers who had a shop in Llandudno. He arrived in North Wales from the area on the Russian Polish border and opened a shop in Bangor in 1865.
He subsequently went on to open shops in London and amongst his customers were Bing Crosby and Jackie Kennedy. Wartski’s have also been involved with the sale of the famous Faberge eggs. A gem of a talk!
Gwyn then came forward to take us on a walk down memory lane, showing aerial views of old Deganwy and how it is today. This led to lots of audience participation as people shared their personal knowledge and reminiscences.
So many changes in the area in just over 50 years.
We are looking forward to the April and May meetings, both of which are to do with Gwrych Castle in Abergele.
On 20th April, Dr Mark Baker, who founded the Gwrych Castle Preservation Trust and who has written several books on the subject, will give a talk about the Castle’s history and on 18th May there will be a follow up meeting when Mark will take us on a guided tour of the Castle site. On 15th June, Elan will take us on a guided tour of Bodafon to visit the School, Hall, Farm and Caves and hear of tales of Roman Battles and on 20th July, Dennis Roberts will take us on another guided tour – this time of Conwy – to hear about the town during the Civil War. We hope the above programme will entice you to continue to support the Group in its activities and its meetings. We’d be glad if you would bring a friend.
New BARGAIN! We have a special offer at the moment with Betty Mills’ book ‘Flowers on a Path’, on sale from now until the end of May only, at a reduced price of £2.50 for one copy, £3.50 for 2 copies or 3 copies for £5 so take advantage of this bargain, an ideal gift for your friends and family with spring on the doorstep. Income from the sale of the book goes to the History Group funds.
In conclusion, we extend to you our very best wishes for a glorious summer.
Spring 2017
Grwp Hanes Deganwy History Group
Quick Navigation
Latest Research Articles
Contact Us
Secretary
Vicky Macdonald
Tel: 01492 583379
VickyMacdonald@aol.com
Web Master
Trefor Price
Mobile : 07711588714
trefor.price@btopenworld.com
Connect With Us
© Deganwy History Group 2022 | stablepoint
Web Design North Wales by Indever