Croeso cynnes i chi i’n Diwrnod Agored blynyddol ar drothwy’r Nadolig unwaith eto! I ble mae’r amser yn mynd?
Mae’n bleser eich cyfarch ac i gofnodi holl weithgareddau’r Grŵp ers y Daflen Newyddion diwethaf.
Cychwynnodd ein cyfres o sgyrsiau’r hydref gyda chyflwyniad gan Trystan Lewis, gŵr ifanc sydd wedi gwneud enw iddo’i hunan ym maes cerddoriaeth, nid yn unig yn lleol ond ledled y DU. Er iddo gael llai na 24 awr o rybudd, oherwydd gwaeledd siaradwr gwadd y noson, cawsom sgwrs hynod o ddifir ganddo am gerddoriaeth a cherddorion lleol ac am yr ambell gwrthdaro a fu yn y meysydd proffesiynol ag amatur .
Ym mis Hydref, cawsom sgwrs gan Graham Roberts am Fae Colwyn a sut cafodd yr ail Ryfel Byd effaith ar ffyniant y dref.
Yn Nhachwedd, yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cawsom gyflwyniadau gan Elan Rivers a Fiona Richards am eu persbectifau unigol eu hunain ar Ddeganwy yng nghyfnod y canol oesoedd. Cyfeiriodd Elan yn benodol at feddiant olynol safle’r Castell gan yr ymosodwyr Seisnig a Thywysogion Cymru. Cyfeiriodd Fiona at rôl yr Abaty Sistersaidd lleol yn Aberconwy yn y cymodi rhwng y ddwy garfan. Cyfeiriodd hefyd at faenor amaethyddol y Creuddyn oedd ym mherchnogaeth yr Abaty ac at bwysigrwydd pysgota, aredig, cwningaroedd a cholomendai i’w cynhaliaeth.
Cynhaliwyd ein cinio Blynyddol yn Hydref, ym Mwyty Paysanne yn y pentref. Ein gŵr gwadd oedd yr Athro Robin Grove-White, ac yn ei gyflwyniad cyfeiriodd at y refferendwm a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr Alban ar annibyniaeth a sut y gallai’r canlyniad effeithio arnom ni yng Nghymru. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith, yn groes i honiadau llawer o haneswyr, bod tirfeddianwyr Cymreig yr 17eg a’r 18fed canrif wedi bod yn rhagweithiol yn cadw diwylliant Cymreig, yr iaith a’i thraddodiad.
Hefyd yn Nhachwedd, ar Sul y Cofio, fe gysegrwyd y plac, a gomisiynwyd gan y Grŵp i gofio am y pump o’r llu awyr a laddwyd 70 mlynedd yn ôl. Mae’r plac wedi’i osod yn Eglwys St Michael yng Nghyffordd Llandudno erbyn hyn. Dylid cyfeirio yma at haelioni cwmni Lambert’s Ymgymerwyr o Gyffordd Llandudno am roi a gosod y plac.
Yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, hefyd yn Nhachwedd, cyfeiriwyd at ymddiswyddiad Bob Barnsdale a Fiona Richards o’r Pwyllgor. Er y byddwn yn colli cyfraniad y ddau a fu’n hoelion wyth i’r Grŵp Hanes, byddant yn parhau i gyfrannu i weithgareddau’r Grŵp. Etholwyd dau aelod newydd i gymryd eu lle sef Nigel Bannerman ag Adrian Hughes. Rydym yn eu croesawu ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hwy er lles y Grŵp Hanes. Llongyfarchiadau hefyd i Eric ar gael ei ailethol yn Gadeirydd am flwyddyn arall.
Yn ein Diwrnod Agored ar 13eg Rhagfyr cewch y cyfle i ailymuno am 2015. Mae’r taliad am flwyddyn yn parhau i fod yn £12 a £2.50 am bob cyfarfod achlysurol. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu nifer o bobl ar y Diwrnod Agored ac yn gobeithio y gallwn ychwanegu at ein casgliad presennol o gardiau post, ffotograffau, dogfennau ayb. Mae ein harchif yn tyfu ac mi fyddai’n braf cael cynnwys mwy o hanesion pobl leol ynddo.
Mae gennym raglen lawn a ddiddorol wedi’i drefnu ar eich cyfer yn 2015 a gobeithiwn y byddwch yn parhau i’w cefnogi.
Yn ein cyfarfod cyntaf ar 15fed Ionawr, bydd Eric Smith yn cyflwyno noson anffurfiol ‘Pigion Hanes’ lle mae aelodau
unigol o’r Grŵp wedi gwirfoddoli i siarad
am agweddau hanesyddol sy’n berthnasol iddynt hwy.
Ein siaradwyr gwadd am y tymor sy’n dod yw fel a ganlyn:
Chwefror 19 – Margaret Dunn – Dyddio Hen Dai Cymreig
Mawrth 19 – Kevin Slattery – Crogfryn a Ffynnon Santes Fair
Ebrill 16 – David Chapman – Gwaith Celf Hanesyddol.
Gobeithio bydd y fwydlen uchod yn ddigon blasus i’ch denu i ymuno a’r Grŵp ac i ddod i’n cyfarfodydd.
Mae gennym gynnig arbennig ar hyn o bryd gyda llyfr Betty Mills ‘Flowers on a Path’ ar werth am bris gostyngedig o £2.50 neu 3 copi am £6 hyd at ddiwedd mis Ionawr yn unig, felly manteisiwch ar y fargen yma, anrheg wych at y Nadolig i’ch cyfeillion a’ch ffrindiau.
Wrth derfynu, rydym yn anfon ein dymuniadau gorau atoch am Nadolig Hapus a Blwyddyn Newydd Dda.
Nadolig 2014
A warm welcome to you to our Annual Open Day with Christmas time upon us once again! Where does time go?
It’s a pleasure to greet you and to record all of the Group’s activities since our last Newsletter.
Our autumn series of talks in September kicked off with a presentation by Trystan Lewis, a young man who has made a name for himself as a noted musician not only locally but across the UK. Although having less than 24 hours’ notice, due to the illness of the scheduled speaker, he gave us a most entertaining talk about music and local musicians and the occasional clashes which occurred in the professional and amateur fields.
In October, Graham Roberts gave us a talk about his home town of Colwyn Bay and how the 2nd World War impacted on the prosperity of the town.
In November, following the Group’s AGM, Elan Rivers and Fiona Richards gave their own individual perspectives on mediaeval Deganwy. Elan referred in particular to the successive possessions of the Castle site by both the English invaders and the Welsh Princes. Fiona spoke of the role of the local Cistercian Aberconwy Abbey in mediating between the two parties. She referred to the agricultural grange held by the Abbey on the Creuddyn and of the importance of fishing, ploughing, rabbit warrens and dovecotes for their sustenance.
We held our Annual lunch in October, at the Paysanne Restaurant in the village. Our guest speaker was Professor Robin Grove-White who, in his presentation referred to the recent Scottish Referendum on independence and how the result might impact on Wales. He also stated that, contrary to the assertions of many historians, Welsh landowners of the 17th and 18th centuries had been very proactive in preserving Welsh culture, its language and its heritage.
November also saw, on Remembrance Sunday, the dedication of the plaque commissioned by the Group in memory of the 5 airmen who were killed 70 years ago. The plaque is now in situ in St Michael and All Angels Church in Llandudno Junction. Mention should be made here to the generosity of Lambert’s Undertakers from Llandudno Junction for providing and fixing the plaque.
At our AGM, also in November, we reported the resignation of Bob Barnsdale and Fiona Richards from the Committee. Although we shall miss the contribution of these 2 stalwarts, they will continue to be involved in the Group’s activities. Two other Group members have been elected to the Committee to fill the vacancies: Nigel Bannerman and Adrian Hughes. We welcome them on board and look forward to working with them to promote the work of the History Group. Congratulations also to Eric on his re-election as Chairman for another 12 months.
At our Open Day on 13th December you will have an opportunity to re-subscribe for 2015. The fee has remained the same at £12 for the year and £2.50 for attending individual meetings. We look forward to greeting as many people as possible at the Open Day and hope to add to our current collection of postcards, photographs, documents etc. Our archive is growing and it would be good to be able to include more memories of local people as possible
We have a full and varied programme arranged for you in 2015 which we hope you will continue to support.
At our first meeting on 15th January, Eric Smith will introduce an informal evening entitled ‘Snippets of History’ where individual Group members have volunteered to speak about certain aspects of history which are relevant to them.
Our guest speakers for the forthcoming season are as follows:
February 19th – Margaret Dunn – Dating Old Welsh Houses
March 19th– Kevin Slattery – Crogfryn & St Mary’s Well.
April 16th – David Champman – Work of Ancient Arts
We hope that the above menu is tasty enough to entice you to join the Group and to attend our meetings.
We have a special offer on at the moment with Betty Mills’ book ‘Flowers on a Path’, on sale from now until the end of January only, at a reduced price of £2.50 for one copy or £6 for 3 copies so take advantage of this bargain, an ideal gift for your friends and relatives this Christmas.
In conclusion, we extend to all members of the History Group our best wishes for a Happy Christmas and a Happy New Year.
Christmas 2014
Grwp Hanes Deganwy History Group
Quick Navigation
Latest Research Articles
Contact Us
Secretary
Vicky Macdonald
Tel: 01492 583379
VickyMacdonald@aol.com
Web Master
Trefor Price
Mobile : 07711588714
trefor.price@btopenworld.com
Connect With Us
© Deganwy History Group 2022 | stablepoint
Web Design North Wales by Indever