Cadeirydd
Mr Eric Smith
Gwanwyn 2015
Taflen Newyddion Rhif 17
Mae’r etholiad cyffredinol drosodd erbyn hyn a chawn ddychwelyd i fywyd arferol unwaith eto heb yr ymdriniaeth barhaus gan y wasg a’r cyfryngau – tybed?
Mae’n bleser eich cyfarch unwaith eto ac i ymdrin â rhai o weithgareddau’r Grŵp ers Taflen Newyddion y Nadolig.
Cychwynnodd ein cyfres o sgyrsiau ar gyfer 2015 pan ddaeth Eric, ein Cadeirydd, a nifer o aelodau’r Grŵp i roi cyflwyniadau oedd o ddiddordeb arbennig iddynt hwy. Cawsom noson arbennig o dda gyda’r cyflwyniadau yn ymdrin ag amryw o feysydd gwahanol. Yn gyntaf, gwelsom ffilm ddramatig, a cherddoriaeth lawn mor ddramatig, yn dangos enbydrwydd y storm yn Rhagfyr 2013 ar ei eithaf – y storm a rwygodd y Promenâd yn Neganwy. Dilynwyd hyn gyda sgwrs am y defnydd o flychau awyr mewn badau achub. Yna cawsom hanes y gwladgarwr enwog Owain Glyndŵr. Yn dilyn hyn cawsom gyflwyniad am Hugh Iorys Hughes, y Peiriannydd Sifil a fu’n ffigwr
amlwg yn adeiladau Harbwr Mulberry ar y Morfa yng Nghonwy ar gyfer glaniad D-Day ym 1944. Parhawyd gyda thema’r 2il Ryfel Byd pan gawsom hanes teimladwy iawn am arwr lleol, Bill Williams oedd yn llywiwr gyda’r Llu Awyr. Ei gamp oedd gallu dychwelyd i’r wlad hon yn yr awyren Lancaster oedd wedi’i ddifrodi’n sylweddol. Daeth y cyfarfod i ben gyda’r hanes am y llwybrau dewisol oedd ar gael ar gyfer yr A55, yn cynnwys y twnelau. Mae’r Grŵp yn ffodus iawn o gael aelodau gyda diddordebau mor amrywiol ac efo gymaint o wybodaeth ac arbenigedd. Oherwydd llwyddiant y noson, bydd ‘Pigion Hanes’ yn parhau i 2016.
Yn Chwefror, daeth Margaret Dunn o Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig atom i roi sgwrs ddiddorol a brwdfrydig am sut i ddyddio hen dai gan ddefnyddio dendrocronoleg. System yw hon sy’n mesur tyfiant blynyddol trawstoriad o ddarn o bren ac felly asesu’r flwyddyn pryd dymchwelwyd y goeden. Mae Grŵp Margaret wedi gwneud maint sylweddol o waith yng Ngogledd Cymru ac maent rŵan yn awyddus i barhau gyda’r gwaith yn Nyffryn Conwy.
Ym Mawrth, rhoddodd Kevin Slattery, Is-Gadeirydd y Grŵp, mewnwelediad hanesyddol i Ffynnon Santes Fair a Chrogfryn yn Llanrhos. Codwyd y cwestiwn am enw Ffynnon Santes Fair tra bo’r Eglwys gyfagos wedi’i chysegru i St Hilary. Cawsom esboniad trylwyr gan Kevin. Cyfeiriodd hefyd at y gwaith arbennig a wnaed gan Ken Davies at atgyweirio’r Ffynnon yn dilyn y llifogydd ym 1993. Mae’n ymddangos bod yr enw Crogfryn yn cyfeirio at fan i fyfyrio am y Croeshoeliad a’r Groesbren, ac nid y syniad cyffredinol mai lle i grogi dihirod lleol.
Yn Ebrill cawsom gyflwyniad dan yr enw ‘Gwaith Celf Hanesyddol’ gan David Chapman o Ddeganwy. Mae David a’i gwmni yn arbenigwyr yn y maes hwn a rhoddodd trosolwg o waith diweddar y cwmni efo archaeoleg ail-luniad. Dangoswyd delweddau o’r ceudyllau copr cynhanes ar y Gogarth ynghyd â darganfyddiadau archeolegol eraill. Dangosodd hefyd sut y bu i’w waith arbrofol blaenorol efo technegau mwyndoddi a chastio cynnar helpu i ddynodi pwysigrwydd y safle hwn. Esboniodd David sut y bu i archaeoleg arbrofol y 30 mlynedd diwethaf trawsnewid ein dealltwriaeth o’r gorffennol ac arwain at well ddealltwriaeth am fywyd pob dydd ein hynafiaid. Cyflwynodd David arteffactau cynhanes i’r aelodau cael gweld a phrofodd hyn i fod o gryn ddiddordeb i’r aelodau.
Dychwelodd Debbie Wareham o ‘Ships Timbers’ atom ym Mai i roi hanes morwrol arall. Y tro hwn, y testun oedd hanes llongddrylliad y “Flying Foam” sy’n gorwedd ar y traeth oddi ar Ben Morfa.
Ar ddiwrnod bendigedig o braf ym mis Mai, aethom ar ein gwibdaith flynyddol. Eleni mentrwyd i bellteroedd Swydd Gaer gan ymweld â nifer o fannau diddorol ar y ffordd yn cynnwys yr Eglwys Farmor ym Modelwyddan, Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Parc Treftadaeth Maesglas, Abaty Basingwerk, Muriau Caer a’r Gadeirlan. Yn dilyn taith hamddenol am ddwy awr ar yr afon yng Nghaer, daeth y diwrnod i ben gyda chinio blasus yn Llanelwy.
Mae gennym raglen lawn ag amrywiol ar eich cyfer am weddill 2015. Mae’r rhaglen am y tymor sy’n dod fel a ganlyn:
Mehefin 18 – taith gerdded min nos i weld sgerbwd y “Flying Foam”.
Gorffennaf 16 – taith gerdded archeolegol ar y Fardre.
Dim cyfarfod yn Awst.
Medi 17 – Atgofion am y Rhyfel Byd Cyntaf
Gobeithio bydd y fwydlen uchod yn ddigon blasus i’ch denu i ymuno â’r Grŵp ac i ddod i’n cyfarfodydd yn y dyfodol.
Cewch mwy o hanes am ddigwyddiadau’r Grŵp ar ein gwefan – cysylltwch â’r Ysgrifennydd ar 01492 582012 neu e-bost ifor65@hotmail.co.uk.
Gwanwyn 2015
|