Cadeirydd

Eric Smith

NADOLIG

2015

Taflen Newyddion  Rhif 19

Croeso cynnes i chi i’n Diwrnod Agored blynyddol ar drothwy’r Nadolig unwaith eto! I ble mae’r amser yn mynd?

Mae’n bleser eich cyfarch ac i gofnodi holl weithgareddau’r Grŵp ers y Daflen Newyddion diwethaf.

Cychwynnodd ein cyfres o sgyrsiau’r hydref gyda chyflwyniad gan Pat Chapman o Ddeganwy am hanesion llanciau ifanc o Ddeganwy a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’u henwau’n ymddangos ar y gofeb rhyfel yn Eglwys yr Holl Saint yn y pentref.

remembrance-day-us-wallpaper

Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Geraint Griffith o Brestatyn ond gynt o Ddeganwy, am hanes ei dad, a fu’n teilwr yn y pentref, yn cael ei alw i fynu i’r gad ond a oroesedd y rhyfel erchyll hwn. Cafwyd darlun eglur o fywyd yn y pentref ar yr adeg yma ond trist iawn hefyd oedd clywed am golli genhedlaeth o ddynion ifanc o un pentref. Pa bryd byddant yn dysgu?

Ym mis Hydref, ymunodd aelodau o Gymdeithas Ddinesig Dyffryn Conwy a ni i wrando ar sgwrs gan Richard Clammer  o Gas-gwent am Stemars Afon Conwy. Roedd ei sgwrs yn seiliedig ar ei lyfr “Passenger Steamers of the River Conwy – Serving the Famous Trefriw Spa”. Daeth oddeutu 80 i wrando ar ei sgwrs ddarluniadol a diddorol iawn.

Cynhaliwyd ein cinio Blynyddol yn Hydref, ym Mwyty Paysanne yn y pentref.

paysanne 4 Ein gŵr gwadd oedd Trystan Lewis, gŵr ifanc o Ddeganwy, a testun ei gyflwyniad difyrrus oedd ei ddiddordeb angerddol mewn hen foduron. Cafwyd sesiwn o holi ag ateb hwyliog gyda’r gynulleidfa yn sôn am eu ceir cyntaf.

Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Nhachwedd, cafwyd darlith gan Brian Bertola a testun ei sgwrs oedd ‘Terfysg yng Ngwersyll Cinmel ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf’. Cafwyd disgrifiadau eglur yma hefyd o ganlyniadau rhyfel.

 

Yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cyfeiriwyd at ymddiswyddiad Tony Hobson o’r Pwyllgor oherwydd afiechyd. Bu Tony yn gefnogwr ffyddlon o’r Grwp ac aeth o gwmpas ei waith, nid yn unig fel aelod rheolaidd o dîm glanhau Ffynnon Santes Fair ond hefyd trwy helpu yn ein cyfardodydd misol. Rydym yn dymuno gwellhad buan iddo.

Llongyfarchiadau i Mary Meldrum, Kevin Slattery ag Eric Smith ar gael eu ailhethol i’r Pwyllgor. Llongyfarchiadau hefyd i Eric ar gael ei ailethol yn Gadeirydd am flwyddyn arall. Rydym yn dra ddiolchgar hefyd i Mary am gytuno i barhau i fod yn Drysorydd y Grŵp Hanes ac am y gwaith a wneir ganddi ar ein rhan. Mae’n braf hefyd cael croesawu Arfon Williams yn ôl i’r Pwyllgor i gymryd lle Tony Hobson.

Yn ein Diwrnod Agored cewch y cyfle i ailymuno am 2016. Mae’r taliad am flwyddyn yn parhau i fod yn £12 a £2.50 am bob cyfarfod achlysurol. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu nifer o bobl ar y Diwrnod Agored sy’n cyfle yr hyn a wnaed gan y Grwp yn ystod 2015. Mae ein harchif yn tyfu ac mi fyddai’n braf cael cynnwys mwy o hanesion pobl leol ynddo.Mae gennym raglen amrywiol a llawn a ddiddorol wedi’i drefnu ar eich cyfer yn 2016 a gobeithiwn y byddwch yn parhau i’n cefnogi.

Yn ein cyfarfod cyntaf ar 21ain Ionawr, bydd Eric Smith yn cyflwyno noson anffurfiol ‘Pigion Hanes’ lle bydd aelodau unigol o’r Grŵp yn gwirfoddoli i siarad am agweddau hanesyddol sydd o ddiddordeb iddynt hwy.

Ein siaradwyr gwadd am  y tymor sy’n dod yw fel a ganlyn:

Chwefror 18fed – Owain Glyndŵr – Meic Williams

Mawrth 17eg – Y Promenâd, Lido a Ffordd yr Orsaf – Vicky Macdonald

Ebrill 21 – Noson anffurfiol dan ofal Elan Rivers, Adrian Hughes a John Davies a fydd yn rhoi prawf ar eich gwybodaeth am Bwyntiau Hanes.

Byddem yn dadorchuddio Panel Dehongli yn Ffynnon Santes Fair, Llanrhos yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Os hoffech fod yn rhan o dim glanhau’r Ffynnon, bydd unrhyw un o’r Pwyllgor yn falch o glywed gennych.

Gobeithio bydd y fwydlen uchod yn ddigon blasus i’ch denu i ymuno a’r Grŵp ac i ddod i gymryd rhan yn ein cyfarfodydd.Mae gennym gynnig arbennig ar hyn o bryd gyda llyfr Betty Mills ‘Flowers on a Path’ ar werth am bris gostyngedig o £2.50 am un gopi neu 3 copi am £6 hyd at ddiwedd mis Ionawr yn unig, felly manteisiwch ar y fargen yma, anrheg wych i chi roi i’ch cyfeillion a’ch teulu y Nadolig hwn.

Wrth derfynu, rydym yn anfon ein dymuniadau gorau atoch am Nadolig Hapus ac am Flwyddyn Newydd Dda.

Nadolig 2015

christmas dec 1

Chairman

Eric Smith

 CHRISTMAS

2015

 Newsletter No. 19

A warm welcome to you to our Annual Open Day with Christmas time upon us once again! Where does time go?

It’s a pleasure to greet you and to record all of the Group’s activities since our last Newsletter.Our autumn series of talks in September kicked off with a presentation by Pat Chapman of Deganwy about the young men from Deganwy who died in the First World War and who’s names appear on the war memorial at All Saints Church.

screen-shot-2013-11-08-at-9-44-42-pm1

  Geraint Griffith from Prestatyn but a Deganwy old boy, spoke about his father,  who was a tailor in the village, being called up for battle but who survived this terrible war. We were given a vivid pictuire of life in the village at this time, but it was also very sad to hear about the loss of a generation of young men from one village. When will they ever learn?

In October, we were joined by members of Conwy Valley Civic Society to hear a talk by Richard Clammer of Chepstow about the River Conwy Steamers. His talk was based on his recently published book “Passenger Steamers of the River Conwy – Serving the Famous Trefriw Spa”. About 80 people were present to hear his illustrated and very interesting talk. 

We held our Annual lunch in October, at the Paysanne Restaurant in the village. Our guest speaker was Trystan Lewis, a young man from Deganwy, and the subject of his entertaining presentation was his passion for old cars. He conducted an enjoyable question and answer session with the audience talking about their own first cars.

Following the Group’s AGM in November,

2012-12-01-12-42-42-David%20Gillan%20grave

Brian Bertola addressed us and the subject of his talk was ‘Kinmel Camp Riots at the end of the First World War’. Once again we were given vivid descriptions of the consequences of war.   

At our AGM, we reported the resignation of Tony Hobson from the Committee due to illness. Tony has been a valiant supporter of the Group and has quietly gone about his work, not only as a regular member of the St Mary’s Well clearing team but also by helping to arrange the room   for our monthly meetings. We wish Tony well for a speedy recovery.  

Congratulations to Mary Meldrum, Kevin Slattery and Eric Smith on their re-election to the Committee. Congratulations also to Eric on his re-election as Chairman for another 12 months. We are also very grateful to Mary for agreeing to continue to be the Treasurer of the History Group and for all the work she does on our behalf. Congratulations also to Arfon Williams who has been re-elected to the Committee to take the place of Tony Hobson. 

At our Open Day you will have an opportunity to re-subscribe for 2016. The fee has remained the same at £12 for the year and £2.50 for attending individual meetings. We look forward to greeting as many people as possible at the Open Day which tells of the Group’s activities in 2015. Our archive is growing and we would like to include more memories of local people.

We have a full and varied programme arranged for you in 2016 which we hope you will continue to support.   

At our first meeting on 21st January, Eric Smith will introduce an informal evening entitled ‘Snippets of History’ where individual Group members have volunteered to speak about certain aspects of history which are of interest to them. 

Our guest speakers for the coming season are as follows:

February 18thOwain GlyndŵrMeic Williams 

March 17thThe Promenade, Lido and Station Road– Vicky Macdonald

April 21st – Iinformal evening in the hands of Elan Rivers, Adrian Hughes and John Davies which will test your knowledge about History Points

We are also arranging the unveiling the Interpretive Panel at St Mary’s Well in Llanrhos early in the New Year. If you would like to be part of Kevin’s Well maintenance team, please let a Committee member know.

We hope that the above menu is tasty enough to entice you to join the Group and to attend and take part in our meetings.

 We have a special offer on at the moment with Betty Mills’ book ‘Flowers on a Path’, on sale from now until the end of January only, at a reduced price of £2.50 for one  copy or £6 for 3 copies so take advantage of this bargain, an ideal gift for your friends and family this Christmas.

In conclusion, we extend to all members of the History Group our best wishes for a Happy Christmas and a Happy New Year.  

Christmas 2015

 

Web Design North Wales by Indever