Cadeirydd  – Y Cynghorydd Jason Weyman

2010 Gwanwyn 

Rhif 5   

CROESO cynnes i rifyn y Gwanwyn o Daflen Newyddion Grŵp Hanes

Roedd y daflen newyddion diwethaf yn

son yn frwdfrydig am Arddangosfa Nadolig y Grŵp. Roedd yr arddangosfa ei hun yn wych ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniadau o’r eitemau a gafwyd gan yr aelodau.

OND yna daeth yr eira – fel lluwchwynt! Ni chawsom gymaint o ymwelwyr ac a ddisgwylid ond roedd pawb a ddaeth yn uchel eu clod am ansawdd yr arddangosion a’r cyflwyniadau gweledol. Ein dymuniad felly yw ail-gynnal yr Arddangosfa, gydag ychydig mwy o eitemau, gan obeithio bydd y tywydd yng nghleniach efo ni’r tro hwn. Mae Mrs Betty Mills wedi cytuno unwaith eto i roi sgwrs, y tro hwn ar ‘The Art of Wild Flowers’ ac fe wahoddwyd mudiadau eraill o’r gymuned i ymuno a ni. Araf yw’r gwerthiant o’i llyfr ’Flowers on a Path’, ar hyn o bryd ac felly rydym yn gofyn unwaith eto i bob aelod helpu gyda hyn.

Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Ionawr ac fe ailetholwyd pob Swyddog ac fe ailbenodwyd Jason yn Gadeirydd Ers y Daflen Newyddion diwethaf rydym unwaith eto wedi cael amrywiaeth o gyfarfodydd; yn Ionawr daeth Mr Vic Edwards atom i son am fadau Dyluniad Un Conwy a chyfeiriodd at yr ymdrechion sy’n mynd ymlaen i adfer gymaint o’r badau hyn ar gyfer dathliad penblwydd Clwb Hwylio Conwy yn gant oed yn ddiweddarach eleni. Yn Chwefror cawsom hanes addurniadol gan Mr Stuart Rivers ar y gwasanaeth tram o Fae Colwyn i Landudno rhwng 1907 a 1956, gwasanaeth a fwriadwyd i ddod i Ddeganwy.

Ym Mawrth cafwyd disgrifiad chwilfrydig gan Mr Nigel Bannerman am benrhyn y Creuddyn a Foryd Afon Gonwy a sut cafodd tirwedd a morlun yr ardal ei newid gan natur dros y canrifoedd. Mae Nigel wedi gwneud gwaith ymchwil wyddonol helaeth ar y pwnc hwn ac yn ei eiriau ei hun ‘mae llawer eto i’w wneud’. Fe ymwelwyd ag Archifdy Llandudno yn Chwefror, ac fel y dywedwyd yn flaenorol, gellir trefnu ymweliad arall ar gyfer y rhai nad oedd yn gallu bod yn bresennol y tro hwn – felly gwyliwch y gofod!

Group Photo

 

Hefyd cawsom daith ragorol o amgylch Castell Conwy dan arweiniad Cwnstabl y Castell ac yna i ymweld â Swyddfeydd y Guildhall. Fe godwyd dros £180 tuag at gronfa’r Grŵp gan Vicky trwy’r ymweliad hwn ac rydym yn hynod o ddiolchgar iddi am hyn. Roedd gennym stondin yn Ffair Hadau Conwy ym Mawrth a galwodd nifer fawr o bobl heibio i ddatgan diddordeb yn ein gweithgareddau.

Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at sgyrsiau gan Mr Richard Clammer ar Stemars Trefriw a gan Mr Philip Evans ar Enwau Strydoedd. Mae ymweliad hefyd wedi ei drefnu i Gastell Aberlleiniog ger Biwmares ac Archifdy Caernarfon ar Fai 9fed a theithiau cerdded min nos i Lanrhos ym Mehefin ac i Gastell Deganwy yng Mae aelodaeth o’r Grŵp yn fwy na’r cyfanswm am y llynedd sydd yn dangos gymaint o ddiddordeb sydd yn ein gweithgareddau.

Fe hoffem weld pob aelod yn cymryd rhan gweithredol yn rhedeg y Grŵp. Fe hoffai’r Pwyllgor i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau yr hoffech eu gweld ac unrhyw weithgareddau y dylai’r Grŵp cymryd diddordeb ynddynt. Os hoffech ymgymryd ag unrhyw rôl e.e. y wasg, cyhoeddusrwydd, y llyfrgell a.y.y.b. fe hoffem glywed gennych.

O ddiddordeb arbennig ar hyn o bryd yw gwaith ymchwil Gwyn, ein gwefeistr, ar Ysgol Woodlands. Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu atgofion am yr Ysgol, yna fe fydd Gwyn yn falch i glywed gennych.

Hefyd, o ganlyniad i’r diddordeb a ddangoswyd yn ein cyfarfod diwethaf am dopograffeg penrhyn y Creuddyn, mae Nigel Bannerman wedi cytuno i arwain grŵp i gynnal fwy o waith ymchwil ar y testun. Rydym yn gobeithio bydd copïau called o’r adroddiadau sy’n ymddangos ar ein gwefan ar gael i’w gwerthu yn y dyfodol agos.

Mwynhewch yr Arddangosfa.

Gwanwyn 2011

Chairman – Councillor Jason Weyman

Spring 2011

No. 5

WELCOME to the Spring edition of the  History of Deganwy Group Newsletter.

The last newsletter referred  enthusiastically to our Christmas  Exhibition. The presentation was  actually superb and the contribution of  items by members was gratefully  appreciated.

BUT then came the snow  – and how! The attendance therefore  was not as great as expected but  everybody who came spoke very  highly of the quality of the exhibits and  the visual presentations. Our wish  therefore is to repeat the Exhibition,  with a few more items, in the hope that  the weather will be kinder to us this  time. Mrs Betty Mills has also agreed  to give another talk – this time on ‘The  Art of Wild Flowers’ and  organisations within  the  wider Community have been invited to  attend. Sales of her book ’Flowers on a  Path’ are slow at the moment so once  more we would ask all members to do  all they can to help with this.

We held our Annual General Meeting  in January and all the Officers were  re-elected and Jason reappointed as  our Chairman.  Since the last Newsletter we have  again had a very varied series of  meetings; in January Mr Vic Edwards  gave a talk on the Conwy One Design  Boats and referred to the efforts which  are being made to restore as many  vessels as possible in time for the  centenary celebrations of Conwy Yacht  Club later this year. In February,

Mr  Stuart Rivers gave an illustrated talk  on the tram service which ran between  Colwyn Bay and Llandudno from 1907  to 1956, a service which was planned  to come to Deganwy. In March, we had  an intriguing description of the  Creuddyn peninsula and the Conwy  Estuary and how nature has changed  the landscape and seascape of the area  over the centuries by Mr Nigel  Bannerman. Nigel has done extensive  scientific research into this subject and  in his own words ‘there’s lots more to  be done’ We undertook a visit to the Llandudno  archives in February, and as  previously stated, this visit can be  repeated at a later date for those who  were not able to attend – so watch this  space!

Conwy Castle tour

Conwy Castle tour

We also had a splendid guided  tour of Conwy Castle by the Constable  of the Castle followed by a visit to the  Town Council Offices in the Guildhall. Vicky raised over £180 towards the  Group’s funds with this event and we  are extremely grateful to her for this.  We also had a stand at the Conwy Seed  Fair in March where many people  expressed considerable interest in our  activities.

Forthcoming events to look forward to  are talks by Mr Richard Clammer on  the Trefriw Steamers, and by Mr Philip  Evans on Street Names.

Trips have  also been arranged to Castell  Aberlleiniog near Beaumaris and  Caernarfon Archives on May 9th and  evening walks have been arranged to  Llanrhos in June and to Deganwy  Castle in July.

Membership of the Group has  exceeded the numbers for last year  which shows how much interest there  is in our activities. We would however  like to see every member becoming  actively involved in the running of the  Group. The Committee would like you  to let us know of any changes you  would like to see and of any other  activities with which you feel the  Group could become involved. If there  is any particular role you may beinterested in taking on e.g. press,  publicity, library etc. we would be glad  to hear from you.

Of particular interest at the moment is  the work that Gwyn, our webmaster, is  doing on Woodlands School. If  anybody has any information or  reminiscences about the School, Gwyn  would be glad to hear from you. Also,  as a result of the interest shown in our  last talk about the topography of the Creuddyn peninsula, Nigel Bannerman  has agreed to lead a group to  undertake further research on the  subject.

We are hoping to have hard copies of  the reports which appear on our  website for sale in the near future.

Enjoy the Exhibition.

Spring 2011

Web Design North Wales by Indever