Cadeirydd – Mrs Elan Rivers

Hydref 2013

Rhif. 12

Wel am haf bendigedig cawsom eleni, gyda’r heulwen braf ar ein cefnau o fore gwyn tan nos am lawer o’r amser. Ers y Daflen Newyddion diwethaf, fodd bynnag, ac wrth i’r dyddiau dechrau byrhau, gall y Grŵp Hanes edrych yn ôl ar amser prysur iawn yn mynd o le i le. Yn Ebrill, arweiniodd Elan aelodau’r Grŵp o gwmpas Plasty Bodysgallen a rhoi’r hanes am y Plasty. Dilynwyd hyn gyda ’paned a mwynhawyd gan bawb. Roedd Mai yn arbennig o brysur, gan ddechrau gyda sgwrs hynod o ddiddorol gan Jane Kenney am adeiladu’r Castell ar y Fardre ac am ‘Fwrdeistref Hynafol Deganwy’. Roedd ganddi ei phersbectif ei hun am yr anheddiad o gwmpas y caer ac un neu ddau o sylwadau diddorol am y dulliau a ddefnyddiwyd i adeiladu muriau’r castell. Hefyd ym Mai aeth criw dewr ohonom ar Wibdaith gyffrous y Gwanwyn i bellafoedd Sir Feirionydd i ymweld â Thomen y Mur, sef y cadarnle Rhufeinig ger Trawsfynydd ac yna i Gastell y Bere ger Tywyn. Yn ein cinio blynyddol, cawson sgwrs gan ein gŵr gwadd, y Cynghorydd Mike Priestley am ei rôl fel aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yna, ar nos Iau oer a gwlyb ym Mehefin, ymunodd nifer o aelodau a Jonathan Wilkins i fynd am daith gerdded ‘daearegol’ ar y Fardre i weld, wrth law, rhai o’r nodweddion diddorol sydd i’w gweld yna. Yng Ngorffennaf aethom am dro hamddenol  ar draws Bont Telford yng Nghonwy. Mae’r nifer o aelodau sy’n dod i’n cyfarfodydd yn parhau i fod yn dda iawn ac mae hyn yn dangos ein bod yn denu siaradwyr sy’n apelio at y mwyafrif o’n haelodau. Gobeithio bydd hyn yn parhau ar gyfer ein siaradwyr gwadd am weddill y flwyddyn – Marion Turner ar 19 Medi – Hanes Cardiau Post; Michael Senior ar 17 Hydref – Croesi Afon Conwy; Bob  Barnsdale ar 21 Tachwedd – Porth Llandudno! Mae gennym raglen lawn a ddiddorol wedi’i drefnu ar eich cyfer yn 2014 a gobeithiwn y byddwch yn parhau i’w cefnogi. Mae’r  dyddiad cau i ddefnyddio’r arian grant o Gronfa Treftadaeth y Loteri yn prysur agosáu. Testun y grant yw ‘Ein Holl Hanesion’ ac mi fydd yr offer a brynwyd gennym ar eich rhan, gyda’ch help chi, yn galluogi ni i adrodd hanes Deganwy dros y blynyddoedd. Os hoffech fod yn rhan o’r gwaith ymchwil hwn yna cysylltwch ag unrhyw aelod o’r Pwyllgor. Byddem yn hynod o falch o’ch help. Yn ein Diwrnod Agored ar ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr rydym yn  gobeithio paratoi casgliad o eitemau a gasglwyd gennym ac mi fydd cyfle i chi ddod a’ch lluniau a’ch  cofarwyddion ayb fel y gallem, gyda’ch caniatâd, eu sganio i’w cynnwys yn ein harchif. Mae Gwyn ar hyn o bryd yn parhau gyda’i drefniadau ar gyfer y gofeb i’r 5 o’r llu awyr a laddwyd yn Chwefror 1944.

220px-Anson_T20_Silh

Avro Anson Mk 1

Cynhelir gwasanaeth coffa yn Eglwys Sant Mihangel, Cyffordd Llandudno ar ddydd Sadwrn, 15 Chwefror 2014 i gofio’r trasiedi a ddigwyddodd saith deg mlynedd yn ôl. Mae Gwyn wedi bod mewn cysylltiad â theuluoedd y rhai a laddwyd ac rydym yn gobeithio bydd rhai ohonynt yn bresennol. Rydym wedi comisiynu plac i gofnodi’r digwyddiad, ac fe wnaed hyn yn bosibl drwy haelioni Cyngor Tref Conwy, a bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio yn ystod y gwasanaeth coffa. Ers y Daflen Newyddion diwethaf mae Kaye, ein Trysorydd wedi ymddiswyddo ar ôl 18 mis yn y swydd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Kaye am ei gwaith yn y swydd ac am gytuno i helpu allan pan fo angen yn y dyfodol. Mae’n braf cael cyhoeddi mai Mrs Mary Meldrum yw ein Trysorydd newydd ac rydym yn hynod o ddiolchgar i chi Mary am gytuno, mor rhwydd, i gymryd y rôl. Ers i’r Grŵp cael ei sefydlu, y gobaith fu y buasai aelodau yn ymuno gyda’i gilydd yn anffurfiol i ddilyn eu diddordebau arbennig yng ngweithgareddau a nodau’r Grŵp Hanes. Eisoes mae gennym grŵp gweithgar sy’n archwilio hanes canoloesol yr ardal ac mae Nigel Bannerman wedi arwain parti i ddilyn ei waith ymchwil i’r foryd a phatrwm newidiol arfordir y Creuddyn dros y blynyddoedd. Mae Kevin a’i dim yn parhau i edrych ar ôl tirlun Ffynnon Santes Fair yn Llanrhos.

St. Mary's Well

St. Mary’s Well

Gan ein bod yn berchnogion llyfr Betty Mills ‘Flowers on a Path’ mae cyfle i’r rhai gyda llygad artistig i wneud yn fawr o hyn trwy gynhyrchu cardiau cyfarch ayb gan ddefnyddio’r darluniau a gynhwysir yn y llyfr. Peidiwch â phetruso rhag gofyn am y gweithgareddau hyn ac i fod yn  rhan ohonynt. Fe hoffem hefyd clywed gennych os oes gennych unrhyw syniadau ar sut y gellir gwella neu ychwanegu at weithgareddau’r Grŵp. Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau atoch ac yn edrych ymlaen at gael eich cefnogaeth barhaus trwy’r nosweithiau tywyll sydd ar ddod.  Cofiwch, gallwch ddilyn ein gweithgareddau trwy gysylltu ag un o aelodau’r Pwyllgor a hefyd trwy ymweld â’n gwefan a Facebook. Hydref 2013

Chair – Mrs Elan Rivers

Autumn 2013

No. 12

What a glorious summer we’ve had with door to door sunshine for a lot of the time. However, as the nights start to draw in, the History Group can reflect on a very busy time getting out and about since our last Spring Newsletter,. In April, Elan led a guided tour of Bodysgallen Hall and gave a talk about the history of the Hall. This was followed by afternoon tea which was enjoyed by all. May was a particularly busy month for us, starting with a most interesting presentation by Jane Kenney about the construction of the Castle on the Vardre and about ‘the Ancient Borough of Deganwy’. She gave us her own perspective about the settlement surrounding the fortification and one or two interesting views as to the methods used to construct the fortification. Also in May an intrepid few of us went on our eventful Spring Field Trip

Tomen y Mur

Tomen y Mur

which took us into the depths of rural Meirionethshire to visit the Roman settlement at Tomen y Mur at Trawsfynydd and then on to Castell y Bere near Tywyn. At our annual lunch, our guest speaker, Councillor Mike Priestley, gave us an insight into his role as a Cabinet member of Conwy County Borough Council.  Then on a cold, wet Thursday evening in June, a number of members joined Jonathan Wilkins for a ‘geological’ walk on the Vardre to view at close hand some of the interesting features which are to be found there. July saw us taking a leisurely walk across the Telford Bridge at Conwy.

Three_bridges_across_the_river_Conwy

Three_bridges_across_the_river_Conwy

Attendances at our meetings continue to be very good which would indicate that we are attracting speakers who appeal to the majority of our members. We hope this will continue for the remainder of the year when our guest speakers will be Marion Turner on 19 September – History of Postcards; Michael Senior on 17 October – Crossing the Conwy; Bob Barnsdale on 21 November – Llandudno Port!. We have a full and varied programme arranged for you in 2014 which we hope you will continue to support.       The deadline for using the grant from the Heritage Lottery Fund is rapidly approaching. The subject of the grant is ‘All Our Stories’ and the equipment we have purchased on your behalf will, with your help, enable us to tell the story of Deganwy down the years. If you wish to be part of this research work, then please contact a member of the Committee. We would be extremely grateful for your help.   At our Open Day on Saturday 14 December we hope to put together a collection of items that we have gathered and there will be an opportunity for you to bring your own pictures, mementoes etc. along so that we can, with your permission, scan them into our archive.   Gwyn is currently progressing with his arrangements for the memorial to the 5 airmen who died in February 1944. A memorial service will be held at St Michael’s Church, Llandudno Junction on Saturday 15 February 2014 to mark the 70th anniversary of this tragedy. Gwyn has been in touch with relatives of the 5 airmen and we hope that some of them will be present. We have commissioned a plaque to mark the event, made possible through a generous contribution from Conwy Town Council, and this plaque will be unveiled during the service.   Since the last Newsletter Kaye, our Treasurer has resigned, having held the post for over 18 months. We thank Kaye for her work whilst in post and for agreeing to assist when required in the future. We are delighted to say, that Mrs Mary Meldrum is our new Treasurer and we thank you Mary for so readily stepping in to the role.   Since the Group’s inception it has always been the hope that members would get together on an informal basis to pursue their particular interests in the History Group’s activities and aims. Already we have an active group looking into the medieval history of the area and Nigel Bannerman has led a party following his research into the estuary and the changing pattern of the Creuddyn coastline over the years. Kevin and his team are looking after the landscaping of St Mary’s Well at Llanrhos.

Ken Davies

Ken Davies

As we are now the owners of Betty Mills’ book ‘Flowers on a Path’, there is an opportunity for those members with an artistic bent to capitalise on this and perhaps, with our new equipment, prepare greeting cards etc. using the pictures contained in the book. Please feel free to ask about these activities and become part of the action. We would also like to hear from you if you have any ideas for improving or increasing the activities of the Group.   We extend to you our best wishes and look forward to your continued support throughout the forthcoming dark evenings. Remember that you can follow what we are doing by contacting any of the Committee members and also by visiting our website and Facebook.   Autumn 2013

Web Design North Wales by Indever