Hanes Milwrol Conwy

Ar 20fed Hydref roedd yn bleser gan Grŵp Hanes Deganwy i groesawu Adrian Hughes atom i roi ei gyflwyniad ar “Hanes Milwrol Conwy”. Mae Adrian wedi rhoi cyflwyniadau i’n Grŵp ar sawl achlysur yn y gorffennol ac ni chawsom ein siomi o wrando ar ganlyniadau ei ymchwil diweddaraf. Deallwn fydd hwn ar gael mewn llyfr yn y dyfodol agos.

Mae’r ardal o amgylch Deganwy a Chonwy yn frith o dystiolaeth o wrthdaro rhwng gwahanol grwpiau o ormeswyr ar hyd yr oesoedd, os ydych chi’n gwybod sut i ddehongli’r canfyddiadau hyn. Mae’n debyg bod y dystiolaeth gynharaf yn dod o gyfnod yr Oes Haearn, sef Caer Seion ar gopa Mynydd y Dref. Mae adeiladu’r gaer wreiddiol yn anhysbys, ond mae gwaith cloddio wedi datgelu tystiolaeth o bobl yn byw yna mor gynnar â’r 6ed ganrif CC.

Yn agosaf at adref mae gennym ein Castell Deganwy, a fu’n destun nifer o drafodaethau gan y grŵp yn y blynyddoedd diwethaf. Dros y canrifoedd, fe godwyd sawl adeiladwaith ar y safle. I ddechrau, dim ond rhagfuriau pren a ffosydd (10fed ganrif) ac yna waliau cerrig a thyrau mwy sylweddol (13eg ganrif) gan Dywysog Cymru, Llywelyn ab Iorwerth. Oherwydd ei leoliad, meddiannwyd y Fardre ers cyfnod y Rhufeiniaid gan nifer o benaethiaid, o Faelgwn Gwynedd ac i Dywysogion Gwynedd. Mae llawer o’r gwaith carreg sydd ar ôl heddiw naill ai o gyfnod ailadeiladu Llywelyn ym 1213 tra bod y tŵr crwn yn dyddio o gyfnod Harri III.

Rhwng 1283 a 1330 adeiladodd y Brenin Edward 1 gadwyn o gestyll o Ruddlan, Conwy, Caernarfon a Biwmares fel rhan o’i ddarostyngiad o’r Cymry cynhenid. Gadawyd Castell Deganwy yn adfeilion ac mae’n debyg bod peth o’r gwaith carreg wedi’i ddefnyddio wrth adeiladu Castell Conwy a muriau’r dref ar draws yr aber.

Yn ystod y Rhyfel Cartref, 1642 i 1651, bu Conwy yn rhan o ymgyrch unwaith eto, yn cael ei warchae a’i beledu gan ganon o safle ger y Gyffin. Roedd hyn yn destun sgwrs flaenorol gan Dennis Roberts ar 20fed Gorffennaf 2017 (gweler ein Harchif Sgyrsiau am fanylion).

Roedd Morfa Conwy yn lleoliad ar gyfer gwersylloedd hyfforddi haf blynyddol i’r Fyddin Diriogaethol yn ail hanner y 19eg ganrif. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf hyfforddwyd sawl catrawd yma ar y meysydd tanio a chynhaliwyd ymarferion corfforol ar Fynydd y Dref uwchben Conwy ac ar Ben y Gogarth gerllaw.

Yn ddiweddarach, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd gweithwyr lletya yn yr ardal i weithio, yn hollol gyfrinachol, ar adeiladu prototeip o Harbwr Mulberry. Pan gwblhawyd y gwaith, roedd y Cynghreiriaid yn gallu creu “porthladd” yn Normandi i hwyluso dadlwytho milwyr, arfwisgoedd a chyflenwadau yn gyflym pan oedd porthladdoedd Ffrengig yn cael eu dinistrio gan yr Almaenwyr. Mae nifer o Gaissonau Harbwr Mulberry yn dal i fodoli heddiw yn Normandi.

Mae gan drigolion Deganwy a Chonwy gysylltiad balch gyda gwahanol sefydliadau milwrol, llawer ohonynt wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar ryw adeg yn eu bywydau. Rydym yn ddiolchgar i Adrian am ei waith yn y maes hwn ac am ein hatgoffa o’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bobl leol ar adegau o wrthdaro, wrth iddynt wasanaethu eu gwlad. Dymunwn yn dda iddo wrth ryddhau ei lyfr newydd a fydd yn cynnwys mwy o fanylion am Hanes Milwrol Conwy.

Addasiad o adroddiad Trefor Price

Web Design North Wales by Indever